Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



PHYLIPIAD ARDUDWY , beirdd yn byw yn Ardudwy , sir Feirionnydd , yn y 16eg a'r 17eg g. Ymestyn eu cyfnod o c. 1543 , a awgrymir yn flwyddyn geni Siôn Phylip , hyd 1678 , pryd y profwyd ewyllys Phylip Siôn Phylip , un o'i feibion. Yr oedd y brodyr Siôn a Rhisiart , a'r brodyr Gruffydd a Phylip Siôn , yn canu yn y mesurau caethion, gan mwyaf, ac y mae digon yn eu gweithiau i dystio bod Siôn , Rhisiart , a Gruffydd yn glerwyr ; yn y mesurau rhydd y canodd William Phylip gan mwyaf, ac nid oedd ef yn clera. Canodd Siôn , a'i fab Gruffydd ar ei ôl, lawer i Fychaniaid Corsygedol , ac yr oedd Rhisiart yn fardd teulu Fychaniaid Nannau . Eithr nid i deuluoedd sir Feirionnydd yn unig y canai'r tri bardd ; nid oes ond ychydig deuluoedd yng ngogledd-orllewin Cymru na chanasant iddynt. Bu i bob un o'r tri athro barddol a ‘graddiodd’ Siôn yn ail eisteddfod Caerwys , 1568 ; yr oeddent hefyd yn achyddwyr da. Yr oeddynt ymhlith y clerwyr diwethaf yng Nghymru ; pan fu Gruffydd f. yn 1666 fe'i galwyd ‘y diweddaf o'r hen feirdd.’

Yn ffermdy Mochres ar ‘ynys’ Mochres yr oedd SION PHYLIP ( 1543? - 1620 ) yn byw. Yr oedd ei deulu yn disgyn o gyndad o'r enw Palgus . Priododd Catherine , aeres Palgus , Ieuan le Colier , ac o'r briodas hon, saith genhedlaeth wedi hynny, y deilliodd Siôn Phylip . Cyn ‘graddio’ yn eisteddfod Caerwys bu Sion dan addysg farddol William Llŷn . Bu'n athro barddonol i'w frawd Rhisiart , ac efallai i'w feibion Gruffydd a Phylip Siôn . Ysgrifennodd ramadeg barddoniaeth a gedwir yn Pen. MS. 89 a Mostyn MS. 144 .

Cyfansoddodd Siôn Phylip yn agos i 200 o gywyddau ac awdlau a llu o englynion. Dyma gyfrif (sydd heb fod yn gwbl gywir, efallai) ohonynt — marwnadau, 66; moliant, 44; serch, 26; gofyn, diolch, etc., 24; duwiol, etc.; 19; ymryson, 10; priodas, 1; amrywiol, 5. Canwyd y marwnadau i feirdd ( William Llŷn , Siôn Tudur , Simwnt Fychan , Morus Dwyfach ), i'r frenhines Elisabeth a'r tywysog Henry , i Eglwyswyr o fri ( Richard Vaughan , esgob Llundain ; Nicholas Robinson , esgob Bangor ; Dr. Gwynn , aelod o deulu Gwydir ; a Dr. William Gruffydd ); y mae un farwnad i Catrin o'r Berain a rhai i aelodau teuluoedd eraill yng Ngogledd Cymru . Canodd Siôn i ganmol Dr. John Davies , Mallwyd , Theodore Price , pennaeth Hart Hall , Rhydychen , Syr John Salusbury , Llewenni , Syr John Wynn o Gwydir a'i fab hynaf John Wynn , Simwnt Thelwall o Blas y Ward , Fychaniaid Corsygedol , Syr William Maurice , Clenennau , etc. Un cywydd priodas a ganodd — honno ar briodas Syr Roger Mostyn a Mary , merch Syr John Wynn , Gwydir . O'r cywyddau serch yr un i'r wylan ydyw'r mwyaf adnabyddus.

Ysgrifennodd Siôn Phylip nifer o ganiadau duwiol, a cheisiodd yntau hefyd (fel Edmwnd Prys , etc.) droi rhan o'r Ysgrythur (y salm gyntaf) ar gân. Ceir ‘ Cywydd y ffenics ’ yn fynych yn y llawysgrifau. Ymysg y canu amrywiaethol y mae ‘ Moliant i'r parlwr newydd ym Mhlas y Ward ,’ ‘ Cywydd i'r tai coed ac i'r herber yng Ngwedir ,’ a ‘ Cywydd i dref Conwy pan oedd y nodau yno. ’ I'r dosbarth hwn y perthyn y cywyddau ymryson — gyda'i frawd Rhisiart ynglŷn â Nannau , gyda'i ewythr, Siôn Dafydd Siencyn , gydag Edmund Prys , gyda Tomos Prys , Plas Iolyn , a'r gyfres ddiddorol yn yr ymryson â Siôn Tudur . Bu gan Siôn Phylip ran mewn ymrysonau rhwng Edmwnd Prys a William Cynwal a Huw Machno , a honno rhwng Gruffydd Hafren , Rhisiart Phylip , a Ieuan Tew . Ysgrifennodd lu mawr o englynion. Ni chanodd o gwbl yn y mesurau rhyddion yr oedd rhai o'i gyfoedion yn dechrau eu mabwysiadu. Bu'r bardd f. 13 Chwefror 1620 ym Mhwllheli , drwy foddi , pan oedd ar fin croesi oddi yno i Fochres ar ôl bod ar daith glera yn sir Gaernarfon a sir Fôn , a chladdwyd ef yn Llandanwg , yn ymyl ei gartref. Gadawodd weddw a chwech o blant. Canwyd marwnadau iddo gan Edmund Prys , Rhisiart Cynwal , Ieuan Llwyd , Gruffydd Hafren , Rowland Fychan , a chan ei fab Gruffydd Phylip .



Yr oedd RHISIART PHYLIP (bu f. 1641 ), brawd iau Siôn Phylip , yn ysgrifennu mor gynnar â 1587 . Canodd 105 o gywyddau ac awdlau a thros 50 o englynion. Fel ei frawd yr oedd yn glerwr — yn canu'n aml i'r un personau ag y canai Siôn iddynt. Bu'n ymryson â beirdd eraill — ei frawd Siôn , Rhisiart Cynwal , etc. Nid ymddengys iddo ganu marwnad pan fu ei frawd f. yn 1620 ; yr un modd, pan fu yntau f. yn 1641 , nid ei nai Gruffydd Phylip a farwnadodd iddo eithr William Phylip , Hendre Fechan . Yr oedd yn byw yn Llanuwchllyn ychydig cyn iddo farw; dywed William Phylip iddo f. yn y Prys a'i gladdu yn Llanuwchllyn .

Gellir dosbarthu ei ganiadau fel hyn: marwnadau, 32; canmol, 33; gofyn, diolch, etc., 13; serch, 5; cywyddau ymryson, 11; Nannau , 7; amrywiol, 7. I deuluoedd Gogledd Cymru y mae'r marwnadau, eithr ceir un i Dafydd Llwyd ab Ifan , Abermaed , sir Aberteifi . Canodd farwnad Catrin o'r Berain ac un i'r frenhines Elisabeth . Canodd gywyddau ac awdlau moliant i aelodau teuluoedd Gwydir , Corsygedol , Llewenni , Glynllifon , Rhiwedog , a Clenennau . Canodd bedwar cywydd i ganmol Dr. John Davies , Mallwyd . Ymysg y cywyddau gofyn ceir un at Rowland Fychan — ‘ Cywydd i ofyn newid milgwn ’; mewn un arall gofynnir i John Fychan , Caergai , roddi bytheuad i Lewis Gwyn , Dolau Gwyn . Ceir gan y bardd bum caniad serch; ‘ Awdl o foliant i ferch o Dywyn ’ ydyw'r fwyaf adnabyddus. Heblaw ei ymryson â'i frawd, bu'n ymryson â Rhisiart Cynwal , a bu iddo ran mewn ymrysonau, etc., rhwng Tomos Prys , Plas Iolyn , Gruffydd Hafren , Ieuan Tew , a Sion Mawddwy . Y mae ganddo gywydd diddorol i'r ‘ffiol frech’ neu'r ‘ffiol oddfyn’ a oedd yn perthyn i Lewis Gwyn , Dolau Gwyn . Dywedir yn un o'r Cwrtmawr MSS. iddo ganu ‘ Dau bennill ar y mesur Gwel yr Adeilad ,’ ond ni welwyd mo'r cyfeiriad arbennig hwn mewn unrhyw lawysgrif arall. Canodd Rhisiart lu mawr o englynion.



GRUFFYDD PHYLIP (bu f. 1666 ). Dyma syniad am gynnwys ei weithiau barddonol: I ( a ) marwnadau 26, ( b ) canmol 25, ( c ) gofyn 4, ( d ) priodas 6, ( e ) amrywiol 2; II, caniadau yn y mesurau rhyddion 3; III, englynion. Ei farwnadau gorau ydyw rhai a ganodd ar ôl ei dad ( Siôn Phylip ) a Rhisiart Hughes , Cefn Llanfair , Lleyn . Y mae'r un i'r archesgob John Williams yn llai adnabyddus. Marwnadodd hefyd ar ôl ei noddwyr pennaf — William Fychan , Corsygedol , ac Owen Ellis , Ystumllyn . I William Fychan , Corsygedol , y mae rhan fwyaf y cywyddau canmol, ond y mae eraill sydd o ddiddordeb, e.e. dwy i Dr. John Davies , Mallwyd . Yr unig gywydd merch ganddo ydyw ‘ Cywydd marwnad a wnaeth In [un] o ymddyddan rhwngtho ai gariad y rhon a fase farw ’ ( Pen. MS. 241 ). Canodd 17 o ganeuon i William Fychan , Corsygedol , a briododd Ann Nannau yn 1649 , ac i eraill o'r teulu. Canodd hefyd i aelodau teulu Ellis , Ystumllyn a Bronyfoel , Eifionydd , yn enwedig i Owain Ellis a Marged Elis ; yng nghyfres Ystumllyn y mae'r faled — ‘ Hiraeth y Bardd am Ystumllyn ’ (gw. Caniadau yn y Mesurau Rhyddion ). Gwelir cân arall yn yr un mesur yn Blodeugerdd , 1759 — ‘ Dirifau'r Coler Du .’ Y mae yn Pen. MS. 245 ‘ Cân Gwirod neu Wyl Fair ’ y dywedir mai Gruffydd Phylip a'i canodd. Ceir gan Gruffydd hefyd lu o englynion. Yn eu plith y mae ‘ Englynion a ganwyd pan oeddynt yn bwrw Castell Harlech i lawr ,’ chwech yn nechrau Yr Ymarfer o Dduwioldeb (cyf. Rowland Fychan ) a chwech yn nechrau Ystyriaethau Drexelius , 1661 . Bu'r bardd f. yn 1666 .


PHYLIP PHYLIP (bu f. c. 1677 ), mab Siôn Phylip ac felly'n frawd i Gruffydd Phylip . Y mae ei ewyllys, a wnaethpwyd ar 9 Medi 1676 , ac a brofwyd ar 5 Gorffennaf 1678 , yn y Llyfrgell Genedlaethol ; ynddi disgrifir ef fel ‘ Phillip Jon. Phillip of the pish of Llandanock in the county of Merioneth .’ Pedwar cywydd o'i waith a gadwyd (hyd y gwyddys) — ( a ) ‘ Cowydd i Mr. Gruffyth Van o Gors y Gedol yw groesawu Adref or ysgol ’; ( b ) ‘ Marwnad Mr. Moris Wynn o Faesneuadd Esquier Enwog ’; ( c ) ‘ Cowydd Moliant i Owen Wynn o'r Glyn, Esq., pan oedd ef yn Sirif yn Sir Feirionydd ’; a ( d ) ‘ Marwnad William Phylip Hendre fechan .’


WILLIAM PHYLIP ( 1579/80? - 1669/70 ), Hendre Fechan , ym mhlwyf Llanddwywe , sir Feirionnydd , mab Phylip ap Siôn ap Thomas ap Robert , Hendre Fechan (a fu f. ar 25 Chwefror 1625/6 , ac a gladdwyd yn Llanddwywe ), a'i wraig Catrin (a fu f. yn 1651 ac a gladdwyd yn Llanddwywe ). Bu Ann , gwraig y bardd , f. yn 1653 , a'i ferch Elisabeth tua'r un amser, a chladdwyd y ddwy yn Llanaber ; eithr yn Llanddwywe y claddwyd William Phylip pan fu f. ar 11 Chwefror 1669/70 . Ysgrifennodd y bardd farwnadau i'w dad, i'w fam, i'w wraig, ac i'w ferch. Gadawodd fab, Henry Williams , Hendre Fechan , a roes Mostyn MS. 144 , sydd yn llawysgrifen ei dad, i Gruffydd Fychan , Corsygedol , yn 1678 . Fel y dengys llawer o'i waith yr oedd William Phylip yn Frenhinwr pybyr. Dywedir iddo ddioddef erledigaeth yng nghyfnod Cromwell oherwydd iddo ysgrifennu marwnad Siarl I ac oherwydd ei gasineb at y sectau crefyddol a gwleidyddol newydd. Y mae'n anodd dywedyd ymha fodd y cafodd ei erlid; mae'n bosibl fod ei ‘ Englynion ffarwel i Hendre Fechan ’ yn cyfeirio nid at unrhyw erledigaeth eithr at ei ymdeimlad bod angau yn agosáu.

Ysrifennodd 20 o gywyddau, un awdl, tua 35 o garolau a dyrïau, a llu mawr o englynion. Y cywyddau mwyaf adnabyddus yw ei farwnad i Siarl I a'r ‘ Cywydd y Bedd .’ Marwnadau ydyw mwyafrif ei gywyddau; canodd farwnadau i'w rieni, i'w wraig a'i ferch, i Rhisiart Phylip , Robert Ffoulke , offeiriad Llanfechain , Huw Nannau , Gruffydd Fychan , Caergai , etc. Canodd i groesawu adferiad Siarl II , ac un arall i ganmol y cyrnol John Owen , Clenennau . Ceir pedair cân o'i waith yn Carolau a Dyriau Duwiol , 1688 , a phump yn Blodeu-Gerdd , 1759 , er efallai nad William Phylip ydyw awdur ‘ Carol i'r Gwirod ’ sydd yn un o'r pump. Heblaw y rhain y mae 24 o ganiadau eraill, yn y mesurau rhyddion, a briodolir iddo a rhyw ychydig nas gellir bod yn bendant mai efe a'u canodd. Caniadau ar bynciau crefyddol ydyw rhai, ac y mae eraill ar bynciau gwleidyddol, e.e. ‘ Histori y Bruttaniaid ’ sydd yn rhoddi hanes Brutus a'i ddyfodiad i Brydain . Yn Pen. MS. 115 ceir ‘ Carol at Gruffydd Phylip am Gatea. ’ Yn Bangor MS. 401 ceir carolau a dyrïau yn Saesneg , llawer ohonynt yn llaw William Phylip . Gellir bod yn weddol bendant ynglŷn â ‘ Karol Wyl Fair wrth wirota ar fesur byrr ’ sydd yn Bangor MS. 401 mai William Phylip a'i canodd, ond nid yw'n sicr mai ef a wnaeth y garol gyffelyb sydd yn Blodeu-gerdd , 1759 . Y mae ei englynion yn niferus. Ceir rhai ganddo ynglŷn â gwarchae a chwymp castell Harlech , englynion marwnad ‘ Coronel Wil: Wyn o Ddyffryn Melai ’ (a laddwyd yn 1643 ), ‘ Englynion o gwyn pan fu Rowlant Fychan Caergai yn y Rhyfel ’ a thri arall ynglŷn â ffawd Caergai ac Ynysmaengwyn , pump o ‘ Englynion Croeso i Arglwydd Mawddwy ,’ englynion ‘ Pan dorwyd pen y Brenin ,’ ac ‘ Englynion i'r Rowndied‘ . Y mae gan y bardd lawer o englynion i ferched a llu o rai o natur grefyddol. Ceir englynion ganddo yn nechrau Ystyriaethau Drexelius , 1661 . Gelwir yr ‘ Englynion ffarwel i hendre fechan ’ yn ‘ Englynion ar henaint ’ mewn rhai MSS. Yn B.M. Add. MS. 14953 y mae gramadeg Cymraeg — y rhan fwyaf ohono yn llaw William Phylip .

Llyfryddiaeth:

  • William Ll. Davies , ‘Phylipiaid Ardudwy: A Survey and a Summary,’ yn Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion , xlxii, 155-268, a'r cyfeiriadau a roddir yno.

Awdur:

Syr William Llewelyn Davies, M.A., LL.D., F.S.A. (1887-1952), Aberystwyth