PHILLIPS, REGINALD WILLIAM (1854 - 1926), llysieuegwr

Enw: Reginald William Phillips
Dyddiad geni: 1854
Dyddiad marw: 1926
Rhiant: Thomas Phillips
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: llysieuegwr
Maes gweithgaredd: Natur ac Amaethyddiaeth; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd yn Nhalgarth (Brycheiniog) 15 Hydref 1854, yn fab i Thomas Phillips, cofrestrydd. Addysgwyd yn y Coleg Normal ym Mangor (bu wedyn yn athro ynddo) ac yng Ngholeg S. Ioan, Caergrawnt, lle y graddiodd yn 1884 yn y dosbarth blaenaf mewn gwyddoniaeth; cafodd wedyn radd D.Sc. ym Mhrifysgol Llundain am waith ymchwil ar wymon. Dychwelodd i Fangor yn 1884 yn ddarlithydd mewn bywydeg yng Ngholeg y Gogledd; yn 1888 rhoddwyd cadair athro iddo yn y pwnc hwnnw, ond yn 1894 cafodd gadair llysieueg, a ddaliodd hyd ei ymddeol yn 1923. Yr oedd yn weinydd medrus, a chymerth ran amlwg mewn mudiadau addysgol yng Ngogledd Cymru. Bu farw 2 Rhagfyr 1926.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.