Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



PHILLIPS , THOMAS ( 1806 - 1870 ), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac ysgrifennydd Cymdeithas y Beiblau yng Nghymru ; g. 15 Mawrth 1806 yn Llanymddyfri . Effeithiwyd arno gan ddiwygiad 1819 , a dechreuodd bregethu yn 1821 , gan fwriadu mynd i'r genhadaeth dramor, ond yn 1825 , ar fin mynd i Goleg Cheshunt i'w baratoi, gofynnwyd iddo ymgymryd â chenhadaeth dros y Methodistiaid Calfinaidd yn y Gelli ( Hay ), a bu yno am 10 mlynedd yn cenhadu ac yn cadw ysgol . Ddechrau 1836 , penodwyd ef yn ysgrifennydd dros Gymru i Gymdeithas y Beiblau , a symudodd i dref Henffordd . Bu'n hynod lwyddiannus fel ysgrifennydd , ac ar adeg ei farw ef oedd swyddog hynaf y gymdeithas; arno ef, yn 1853 , y rhoddwyd gofal dathliad ei jiwbili — ar yr achlysur hwnnw y cyhoeddodd Llyfr y Jubili , 1854 . Cyhoeddodd hefyd gatecism ar Babyddiaeth , a aeth drwy sawl argraffiad, a The Welsh Revival , 1860 . Yr oedd yn drefnydd medrus; cymerth ran flaenllaw yng nghychwyniad cymanfa gyffredinol y Methodistiaid Calfinaidd , ac ef oedd ei hail lywydd ( 1865 ). Bu f. yn Henffordd , 28 Hydref 1870 . Y mae cofiant Saesneg iddo, a gyfieithwyd yn 1871 , ac ysgrif lawn yn Y Gwyddoniadur , y seiliwyd y nodyn hwn arni; gw. hefyd Cardiff Catalogue .

Mab hynaf iddo oedd THOMAS PHILLIPS ( 1832 - 1900 ), a brentisiwyd i Thomas Gee ac a gyhoeddodd, 1856 , Llawiadur i'r Iaith Seisonig ; cafodd urddau yn Eglwys Loegr yn 1859 , a graddiodd o Goleg Iesu , Rhydychen , yn 1866 ; cadwai ysgol yn Beckenham ( Foster , Alumni Oxon. ; Asaph ).

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor