PHILLIPS
,
Syr
THOMAS
(
1801
-
1867
),
bargyfreithiwr ac awdur
;
g. yn
1801
yn
Ynysgarth
,
Clydach
, plwyf
Llanelli
,
sir Frycheiniog
, mab
Thomas
ac
Anne
Phillips
. Pan oedd y mab yn ieuanc symudodd y teulu i'r
Trosnant
, gerllaw
Pontypŵl
. Rhwymwyd ef gyda
Thomas
Prothero
,
cyfreithiwr
yng
Nghasnewydd-ar-Wysg
, ac ymhen amser daeth yn bartner iddo. Cymerodd y ddau ran weithgar mewn materion lleol adeg y
Reform Act
, ac yn
1838
daeth
Phillips
yn
faer
Casnewydd
. Tua diwedd ei dymor fel
maer
, sef ar
4 Tachwedd 1839
, y digwyddodd cyrch y
Siartwyr
ar
Gasnewydd
. Clwyfwyd
Phillips
yn y terfysg a fu y tu allan i'r
Westgate Hotel
. Ar ôl hynny cafodd ei anrhydeddu mewn gwahanol ffyrdd am yr hyn a wnaeth i orchfygu'r
Siartwyr
— ei wneuthur yn
farchog
a'i wahodd i giniawa gyda'r
frenhines
,
tysteb
o £800, a
rhyddfreiniad dinas Llundain
(
26 Chwefror 1840
). Rhoes ei bartneriaeth gyda
Prothero
i fyny, gan ddyfod yn
fargyfreithiwr
ar
10 Mehefin 1842
. Cafodd yrfa hynod o lwyddiannus fel
bargyfreithiwr
yn arbenigo yng ngwaith
Llys y Siansri
; daeth hefyd yn
berchen pyllau glo
. Yn ddiweddarach ar ei fywyd bu'n byw yn
Llanellen
, gerllaw
y Fenni
. Ni bu yn briod. Bu f. yn
Llundain
26 Mai 1867
, a'i gladdu yn
Llanellen
.
Bu
Phillips
yn
weithgar ym myd addysg
— fel un o
lywodraethwyr
King's College
,
Llundain
, a hefyd yn hyrwyddo gwaith y
National Schools Society
; rhoes lawer o'i arian ei hunan tuag at
hyrwyddo ffyniant addysg
. Treuliodd lawer o'i amser a llafuriodd yn galed i gasglu defnyddiau er mwyn gwrthateb ensyniadau comisiynwyr yr ymchwil i gyflwr addysg yng
Nghymru
,
1846
, a'r gofadail bennaf i'w enwogrwydd ydyw ei lyfr rhagorol —
Wales, the
Language, Social Condition, Moral Character, and Religious Opinions of the People considered in their relation to Education
,
1849
. Ysgrifennodd hefyd gofiant mwyaf hoffus i
James
Davies
[q.v.]
, y
pedler
a'r
ysgolfeistr
diddorol hwnnw yn
Devauden
—
The Life of James Davies, a Village Schoolmaster
,
1850
.
Llyfryddiaeth:
-
Oxford Dictionary of National
Biography
;
-
John Morgan
,
Four Biographical Sketches Bishop Ollivant,
Bishop Thirlwall, Rev. Griffith Jones, Vicar of
Llanddowror, and Sir Thomas Phillips, Q.C. ; with a chapter
on 'The Church in Wales'
, Llundain, 1892
,
1892
;
-
David Williams
,
John Frost, A Study in Chartism
,
1939
,
1939
.
Awdur:
Yr Athro Emeritus David Williams, D.Litt., (1900-78), Aberystwyth