PHILLIPS, THOMAS (1772 - 1842), gweinidog Annibynnol ac athro

Enw: Thomas Phillips
Dyddiad geni: 1772
Dyddiad marw: 1842
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog Annibynnol ac athro
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg
Awdur: John Dyfnallt Owen

Ganwyd 29 Mawrth 1772 yn Scythlyn, Llanfihangel Ioreth, Sir Gaerfyrddin. Hanoedd o deulu amlwg am ei grefyddolder. Addysgwyd ef mewn gwahanol ysgolion, yn eu plith ysgol Castell Hywel dan David Davis. Derbyniwyd ef yn aelod ym Mhencader pan oedd rhwng 14 a 15 oed. Dechreuodd bregethu ym Mhencader yn 1792 a'i wahodd ar brawf i Ebenezer, Pontypwl, lle y bu am chwe mis. Derbyniodd alwad o Neuadd-lwyd ac urddwyd ef yno ar 5 Ebrill 1796. Priododd ar 29 Mawrth 1798. Gwasnaethai'n gyson ym Mhencader, cychwynnodd achos yn Llanbadarn, a noddi'r achos yn Nhalybont, Ceredigion, rhwng 1796 a 1810. Sefydlwyd ysgol Neuadd-lwyd yn 1810 a'i hagor ar 15 Hydref y flwyddyn honno. O 1810 hyd 1840 bu gofal eglwys Neuadd-lwyd a'r ysgol arno. Cododd Phillips ysgol Neuaddlwyd i enwogrwydd mawr yn y wlad a chyrchai meibion y proffwydi yno i gael eu hyfforddi. Cynorthwyid ef yn yr ysgol gan rai o'i ddisgyblion gorau. Paratoi pregethwyr oedd uchelgais y prifathro ac nid magu ysgolheigion. Trwythai ei ddisgyblion yn llwyr yng ngwybodaeth yr Ysgrythur. Ymhlith ei ddisgyblion yr oedd John Rowlands, Cwmllynfell, David Jones a Thomas Bevan, y ddau genhadwr cyntaf i Madagascar, a J. R. Kilsby Jones. Cyhoeddwyd pregethau o'i eiddo yn 1803, 1808, 1811; Catecism, 1812; Natur Cyfamod Eglwys, 1815; Sypiau Grawnwin - Holwyddoreg, 1818; Ychydig o Hymnau Efengylaidd, 1821 (ail argr., 1842). Ei brif waith oedd Esboniad Byr ar y Testament Newydd, 1831. Bu farw 22 Rhagfyr 1842.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.