PHILLIPS, THOMAS (1760 - 1851), meddyg a noddwr addysg

Enw: Thomas Phillips
Dyddiad geni: 1760
Dyddiad marw: 1851
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: meddyg a noddwr addysg
Maes gweithgaredd: Addysg; Meddygaeth; Dyngarwch
Awdur: Gwilym Owen Williams

Ganwyd 6 Gorffennaf 1760, yn Llundain, mab Thomas Phillips, o Landeglau, sir Faesyfed. Cafodd addysg feddygol yn y Gelli a Llundain, a daeth yn aelod o'r Royal College of Surgeons. Ar ôl gwasnaethu yn y llynges, bu'n feddyg yn Calcutta a Botany Bay cyn ymsefydlu yn yr India yn 1802 a dyfod yn aelod o'r Calcutta Medical Board. Dychwelodd i Lundain yn 1817, a bu farw yno ar 31 Mehefin 1851. Hawlir mai ef oedd noddwr pennaf addysg Gymreig yn y 19eg ganrif. Sefydlodd ysgoloriaethau yng Ngholeg Dewi Sant, Llanbedr-Pont-Steffan, a gwaddoli cadair gwyddoniaeth yno. Yn 1847 sefydlodd ysgol Gymreig Llanymddyfri drwy neilltuo £140 y flwyddyn i dalu cyflog prifathro, gan sicrhau yr arferid yr iaith Gymraeg yn y dosbarthiadau. Yn ei ewyllys gadawodd £12,000 i waddoli cyflogau athrawon. Rhoddodd filoedd lawer o lyfrau i'r sefydliadau hyn ac i amryw drefi yng Nghymru.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.