PHILIPPS, JENKIN THOMAS (bu farw 1755), athro ac awdur

Enw: Jenkin Thomas Philipps
Dyddiad marw: 1755
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: athro ac awdur
Maes gweithgaredd: Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: John James Jones

brodor o Lansawel, Sir Gaerfyrddin. Bu'n efrydydd ym Mhrifysgol Basle, yr Yswisdir, lle, yn 1707, y traddododd araith Ladin ar y testun ' Dibenion Teithio.' Cyhoeddwyd hon yn Llundain yn 1715. Yr oedd yn swyddog yn y llys brenhinol mor gynnar â 1715, pryd yr ysgrifennodd, yn Lladin a Ffrangeg, Discours touchant l'origine et le progres de la religion chrétienne parmi la nation britannique, presenté au Roi. Ail-gyhoeddwyd y Lladin yn Dissertationes quatuor (Llundain, 1735). Yr oedd yn ieithydd penigamp, ac yr oedd yn athro ieithoedd rhwng 1717 a 1720. Ysgrifennodd lyfr ar ei ddull o addysgu, yn dwyn y teitl A compendious way of teaching ancient and modern languages (Llundain, ail arg., 1723). Rhywbryd cyn 1726 daeth yn athro i blant y brenin Siôr II, yn cynnwys William Augustus, dug Cumberland. Ar gyfer hwnnw, ysgrifennodd amryw ramadegau a llyfrau darllen Lladin. Yn ychwanegol at lawer araith Ladin ar destunau diwinyddol ac eglwysig, cyhoeddodd amryw lyfrau Saesneg ar wahanol destunau, megis cyfreithiau a llywodraeth Denmark, a bywgraffiadau o bersonau brenhinol. Yn ei ewyllys gadawodd £60 y flwyddyn tuag at gynnal ysgol rydd yn ei blwyf genedigol, ond bu farw 22 Chwefror 1755 cyn arwyddo'r ewyllys.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.