PHILLIPS, MORGAN (bu farw 1570), offeiriad Catholig

Enw: Morgan Phillips
Dyddiad marw: 1570
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: offeiriad Catholig
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Emyr Gwynne Jones

Ganwyd yn sir Fynwy. Ymaelododd ym Mhrifysgol Rhydychen, 1533, a daeth i gymaint o fri fel athronydd a dadleuydd fel y cafodd yr enw ' Morgan the Sophister.' Etholwyd ef yn gymrawd o Goleg Oriel, 1538, a bu'n brifathro Neuadd y Santes Fair, 1546-50. Daeth yn ganton eglwys gadeiriol Tyddewi yn 1553, ond yn fuan wedi i Elizabeth ddod i'r orsedd ciliodd i'r Cyfandir. Trigai yn Douai yn 1568 yng nghwmni dau alltud nodedig arall, y Dr. Owen Lewis a'r Dr. William Allen, a chynorthwyodd Allen i sefydlu coleg enwog Douai a hyfforddai offeiriaid Catholig ar gyfer y maes cenhadol Seisnig. Yr oedd yn bleidiwr selog i Mari, frenhines y Sgotiaid, ac yn 1571 sgrifennodd Defence of the Honour of Mary Queen of Scotland a gyhoeddwyd yn Douai. Bu farw 18 Awst 1570.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.