Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



PHILIPPS , Syr JOHN ( 1666? - 1737 ), diwygiwr crefyddol, addysgol, a moesol ; mab Syr Erasmus Philipps (gw. dan Philippiaid Pictwn ) a'i ail wraig Catherine Darcy , (bu hi f. 15 Tach. 1713 ) merch Edward Darcy o'i wraig Elisabeth , ferch Philip Stanhope, iarll 1af Chesterfield . Ni wyddys ymha flwyddyn y g. ef. Yn ôl yr arysgrif ar ei gofadail yn eglwys Fair , Hwlffordd , bu f. ‘ January 5, 1736/7 in the 77th year of his age.’ Awgryma hyn 1660 , eithr ni all hynny fod yn gywir gan mai ar 1 Medi 1660 y priododd ei dad ei ail wraig ac mai ail blentyn yr ail briodas oedd John Philipps . Aeth i Ysgol Westminster fel ‘ Ysgolor y Brenin ’ yn 1679 ; gan mai tua 13 a fyddai oed bechgyn yn cychwyn yn yr ysgol hon fel rheol, ymddengys ei eni c. 1666 . Yr oedd yng Ngholeg y Drindod , Caergrawnt , o 1682 hyd 1684 , ac fe'i derbyniwyd i Lincoln's Inn ar 21 Ionawr 1683/4 . Ni cheir ei enw yng nghofrestrau yr un o'r sefydliadau uchod nac yng nghofrestr Ty'r Cyffredin . Gadawodd Gaergrawnt heb raddio ac ni ddaeth yn fargyfreithiwr . Y mae llythyr ato gan ei dad pan oedd yng Nghaergrawnt yn awgrymu ei fod yn wastraffus ei dreuliau ac yn ei rybuddio i beidio a chael rhagor o ‘ foolish frolics ’ ( N.L.W. Picton Castle MSS. , 30 Ebrill 1683 ).

Ychydig a wyddys am ei yrfa hyd 1695 . Ym mis Rhagfyr y flwyddyn honno etholwyd ef yn aelod seneddol dros fwrdeisdref Penfro ; daliodd y sedd hyd 1702 . Ailetholwyd ef i'r Senedd , a bu'n aelod dros Hwlffordd hyd 1722 . Bu ei dad f. 18 Ionawr 1696/7 . Ar 12 Rhagfyr priododd y mab, a oedd bellach yn Syr John Philipps , y 4ydd barwnig , â Mary , merch ac aeres Anthony Smith , marsiandwr East India cyfoethog; bu Lady Philipps f. 18 Tachwedd 1722 , gan adael tri mab a thair merch. O 1695 hyd 1737 yr oedd Syr John yn ffigur blaenllaw yn holl fudiadau crefyddol a dyngarol ei ddydd — y ‘ Society for the Reformation of Manners ,’ y S.P.C.K. , y S.P.G. , yr ‘ East India Mission ,’ a'r ‘ Holy Club .’ Yr oedd mewn cyswllt cyson â diwygwyr crefyddol megis A. H. Francke , A. W. Boehme , J. F. Osterwald , John a Charles Wesley , a George Whitefield , gwr y bu Syr John yn ei gynnal yn Rhydychen am gyfnod. Etholwyd ef yn aelod o'r S.P.C.K. ymhen mis o'r amser y ffurfiwyd y gymdeithas honno, ac efe oedd ei haelod mwyaf dylanwadol hyd adeg ei farw. Gwnaeth siroedd Penfro a Chaerfyrddin yn ganolfannau pennaf gwaith y gymdeithas yng Nghymru , sefydlodd 22 o ysgolion yn sir Benfro ac amryw yn y sir arall, ac efe a fu'n gyfrifol gan mwyaf am lwyddiant ymdrechion cynharaf ei frawd-yng-nghyfraith, Griffith Jones , Llanddowror .

Llyfryddiaeth:

  • Cofrestri Ysgol Westminster; Coleg y Drindod, Caergrawnt; Lincoln's Inn;
  • Llawysgrifau'r S.P.C.K;
  • Cofnodion yr S.P.G.;
  • Llawysgrifau Castell Pictwn yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Ll.G.C.;
  • L. Tyerman , The Life of the Rev. George Whitefield , Llundain, 1876-77;
  • L. Tyerman , The Oxford Methodists Memoirs of the Rev. Messrs. Clayton, Ingham, Gambold, Hervey, and Broughton, with biographical notices of others , Llundain, 1873 ;
  • Thomas Shankland , ‘The Charity School Movement in Wales,’ yn Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion , 1904-5 ;
  • Thomas Shankland, ‘Diwygwyr Cymru yn Seren Gomer , 1901-3 ;
  • J. J. Evans , Cymry Enwog y Ddeunawfed Ganrif , Aberystwyth, 1937 ;
  • M. G. Jones , The charity school movement a study of eighteenth century puritanism in action , 1938 ;
  • W. M. Williams , ‘The Friends of Griffith Jones , yn Y Cymmrodor , 1939 ;
  • D. Salmon , ‘The Good Sir John Philipps,‘ yn The Western Telegraph , 29 Mai 1941 ;
  • Mary Clement , Correspondence and minutes of the S.P.C.K. relating to Wales 1699-1740 , Gwasg Prifysgol Cymru, 1952 ;
  • The S.P.C.K. and Wales, 1699-1740 the history of the S.P.C.K. in Wales from its foundation to the early years of the Welsh Methodist movement , S.P.C.K., 1954 ;
  • T. Kelly , Griffith Jones, Llanddowror pioneer in adult education , Gwasg Prifysgol Cymru, 1950 .

Awdur:

Dr Mary Clement, Ph.D., Llanelli / Aberystwyth