PHILLIPS
,
JOHN
(‘
Tegidon
’;
1810
-
1877
),
argraffydd a bardd
;
g.
12 Ebrill 1810
, yn y
Bala
. Addysgwyd ef yn
ysgol Tŷ-tan-domen
yn y
Bala
, ac yno y prentisiwyd ef yn
argraffydd
gyda
Robert
Saunderson
. Symudodd oddi yno i
Gaer
i swyddfa
John
Parry
[q.v.]
, a bu yno am dymor yn
arolygu swyddfa argraffu
'r
Drysorfa
a
Goleuad Cymru
; ysgrifennodd lawer i'r ddau gyhoeddiad hyn.
Tua 1850
, symudodd i
Borthmadog
yn
ysgrifennydd
i'r ‘
Welsh Slate Company
,’ a bu wedyn yn
brif orchwyliwr y cwmni
am tuag 20 mlynedd. Fel
argraffydd
bu'n cynorthwyo
Robert Isaac
Jones
(‘
Alltud Eifion
’) [q.v.]
i
gychwyn argraffwasg
yn
Nhremadog
yn
1854
. Ysgrifennodd lawer i'r
Drysorfa
,
Y Gwyliedydd
,
Y Geiniogwerth
,
Seren Gomer
,
Y Methodist
, a'r
Traethodydd
(
1849-54
). Bu'n
is-olygydd
i'r
Gwyliedydd
, ac yn
olygydd barddoniaeth
Goleuad Cymru
,
1822-38
, am flynyddoedd. Gwnaeth lawer i
hyrwyddo llenyddiaeth a cherddoriaeth
yng nghylch
Porthmadog
, ac yr oedd yn amlwg fel
siaradwr cyhoeddus
.
Cyfansoddodd lawer o farddoniaeth
hefyd; ond yn y mesurau rhydd y canai y rhan amlaf. Daeth un o'i ganeuon, ‘
Hen Feibl Mawr Fy Mam
,’ yn boblogaidd iawn, a hefyd ‘
Saith ym Ni
,’ cyfieithiad o ‘
We are Seven
’
Wordsworth
.
Cyfansoddodd rai emynau
, ac
ysgrifennodd lawer o ganeuon ac ysgrifau i blant a phobl ieuanc
; a chyhoeddodd amryw lyfrau poblogaidd: e.e.
Y Ddeilen ar y Traeth
,
1868
,
Y Tlws Arian
,
Y Gelyn a'r Frwydr
,
Y Cenhadwr
,
Yr Eglwys yn y Tŷ
(cyfieithiad o lyfr
J.
Hamilton
);
Seppely Bach a'i Feibl
(cyfieithiad o chwedl
Swisaidd
). Bu f.
28 Mai 1877
ym
Mhorthmadog
, a chladdwyd ef ym mynwent
Llanycil
.
Llyfryddiaeth:
-
Hanes Porthmadog
. [1913.]
, 187-8;
-
Cymru
, vi, 111-3; xi, 121-3; lix, 30;
-
Y Gestiana
, Tremadog, 1892
, 88;
-
Beirdd y Bala.
Cyfres y Fil 28,
1911
, 93-8;
-
Eminent Welshmen
, 1908
.
Awdur:
William Rowlands, M.A., Porthmadog