PHILLIPS, JAMES (1703 - 1783), clerigwr a hynafiaethydd

Enw: James Phillips
Dyddiad geni: 1703
Dyddiad marw: 1783
Priod: Phillips (née Powell)
Rhiant: John Phillips
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr a hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Hanes a Diwylliant
Awdur: John James Jones

Yn ôl T. M. Rees (Not. W.), ganwyd ef ym Mlaenau-y-pant, ym mhlwyf Llandygwydd, Sir Gaerfyrddin, neu'n hytrach Sir Aberteifi. Ni ddywed O. Jones (Cymru) a'r Brython, 1861, 162, namyn na'i fod 'o Blaenpant,' yr hyn ni olyga o angenrheidrwydd ei fod wedi ei eni yno. Yn Foster, Alumni Oxonienses, ceir hanes am un James Phillips, a oedd yn fab i John Phillips o Lanbedr Efelffre a Colby, Sir Benfro. Ymaelododd y James Phillips hwn yng Ngholeg Iesu, Rhydychen yn 1724?, a graddio B.A. 1727, M.A. 1729/30, B.D. a D.D. 1743; a bu farw yn 1783. Dengys atebion i ymweliadau eglwysig fod y Dr. James Phillips wedi ei wneud yn ficer Nanhyfer yn 1730, lle y bu farw yn 1783, ar ôl bod hefyd yn rheithor Llangoedmor oddi ar 1738/9. Dros amser yn unig y bu ei gysylltiad â Blaenpant. Bu'n trigo yno am 10 neu 12 mlynedd yn ystod maboed tad y cyrnol Owen Brigstocke. Cafodd felly'r fantais o ddefnyddio'r llyfrgell ardderchog a gasglwyd yno gan Owen Brigstocke, brawd y William Brigstocke a ddaeth i Blaenpant ar ei briodas â'r gyd-etifeddes. Dichon mai'r llyfrgell hon a enynnodd ynddo ddiddordeb mewn hynafiaethau Cymraeg. Gohebai â Samuel Pegge, yr hynafiaethydd Saesneg, yr hwn a ymgynghorai ag ef ynghylch materion hynafiaeth Gymraeg. Arferai Phillips drafod y materion mewn llythyrau at Evan Evans ('Ieuan Brydydd Hir') ac Edward Richard, Ystradmeurig. Yn ei dro, dangosai Richard lythyrau Phillips i Lewis Morris. Ond ni feddyliai Morris yn uchel am Phillips, ac unwaith galwodd ef yn ' ddarn o antiquary.' Er bod y cwbl o lythyrau hynafiaethol Phillips y gwyddys amdanynt wedi eu hysgrifennu ym Mlaenpant, y Dr. Phillips o Langoedmor a ddylid ei alw, fei y gwna, er enghraifft, D. G. Osborne-Jones yn ei lyfr Edward Richard of Ystradmeurig, 44. Ymbriododd James Phillips â - Powell, Nanteos, ger Aberystwyth.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.