PHILLIPS, ELIZABETH (fl. 1836), emynydd

Enw: Elizabeth Phillips
Plentyn: Thomas Hughes
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: emynydd
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth; Crefydd
Awdur: Thomas Isfryn Jones

o'r Penrhyn, Conwy, Sir Gaernarfon; awdur 25 o emynau a ddarganfuwyd gan Richard Griffith ('Carneddog') ymhlith llawysgrifau Robert Isaac Jones ('Alltud Eifion'). Copïodd ' Carneddog ' yr emynau a chyhoeddwyd hwynt am y tro cyntaf yn Cymru (O.M.E.), 1906. Mewn nodyn ar y llawysgrif yn llaw ' Alltud Eifion ' dywedir fod Elizabeth Phillips yn fam i Dr. Thomas Hughes (1793 - 1837), meddyg, Plasward, Pwllheli, tad Elizabeth, gwraig gyntaf ' Alltud Eifion.'

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.