PHAER (neu PHAYER), THOMAS (1510? - 1560), cyfreithiwr, meddyg, a chyfieithydd

Enw: Thomas Phaer
Dyddiad geni: 1510?
Dyddiad marw: 1560
Priod: Anne Phaer (née Walter)
Plentyn: Elisabeth Vaughan (née Phaer)
Rhiant: Thomas Phaer
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cyfreithiwr, meddyg, a chyfieithydd
Maes gweithgaredd: Cyfraith; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Meddygaeth; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: John James Jones

brodor o Norwich, a mab Thomas Phaer o'r lle hwnnw. Y mae'n debyg fod ei deulu o darddiad Ffleminaidd. Addysgwyd ef yn Rhydychen a Lincoln's Inn. Pan benodwyd ef yn gyfreithiwr i lys y gororau Cymreig, daeth i fyw yng Nghilgerran, Sir Benfro, lle y treuliodd y gweddill o'i oes; bu farw Awst 1560 a chladdwyd ef yn eglwys Cilgerran. Priododd ag Anne, merch Thomas Walter, o Gaerfyrddin. Yr oedd yn awdur llyfrau ar y gyfraith. Trodd at ffisygwriaeth a chyhoeddodd gyfieithiad Saesneg o Regimen Sanitatis Salerni. Ond y mae'n nodedig yn bennaf am ei gyfieithiad disglair o ' Aeneid ' Vergil, o'r hwn y cwplaodd naw llyfr a rhan o'r degfed.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.