PETER
,
JOHN
(‘
Ioan Pedr
’;
1833
-
1877
),
gweinidog ac athro Annibynnol, ac ysgolhaig Cymraeg
;
g. yn y
Bala
,
10 Ebrill 1833
, yn fab i
Peter
Jones
,
saer melinau
, a'i wraig
Ellen
,
chwaer i'r
pregethwr
Dafydd
Rolant
(
1795
-
1861
) [q.v.]
. Bu yn ysgol rad y
Bala
(‘
Ysgol Tŷtandomen
’), ond yn
1847
dechreuodd weithio fel
saer melinau
. Yn ei drampiau ar draws gwlad, cafodd gyfle i'w
ddiddordeb mewn daeareg ac mewn hynafiaethau
. Ymddiddorai hefyd mewn
barddoniaeth
, ac yn
1849
sefydlodd ef a'i gyfeillion (megis
Thomas Charles
Edwards
[q.v.]
) ‘
Gymdeithas Lenyddol Penllyn
’; ymroes hefyd i'w ddiwyllio ei hunan gan
astudio ieithoedd
ac ymweld ddwywaith (
1856
,
1857
) â'r
Cyfandir
. Dechreuodd
bregethu
; ym
Medi 1855
aeth i
Goleg yr Annibynwyr
yn y
Bala
; ac yn
1859
codwyd ef yn
athro
ynddo. O
1859 hyd 1870
bu'n
weinidog
cynulleidfaoedd y
Bala
a
Thŷ'n-y-bont
. Priododd yn
1861
ag
Elisabeth
Noall
, merch o gryn allu y gwelir peth o'i gwaith yn
Y Traethodydd
,
1864
a
1869
. Bu f.
17 Ionawr 1877
. Yr oedd yn
llenor
cyffredinol diwyd; sgrifennai i'r
Beirniad
,
Y Diwygiwr
,
Y Dysgedydd
, a'r
Traethodydd
, nid yn anaml ar wyddoniaeth — yr oedd yn
ddaearegwr
da. Ond ar y
Gymraeg
a'i llenyddiaeth y gwnaeth ei waith pwysicaf.
Copïai lawysgrifau
'n ddyfal, ac yr oedd yn
llyfryddwr
gwych. Eithr hynodid ef yn bennaf gan ei
astudiaeth wyddonol o'r iaith
; disgybl oedd ef i
Edward
Lhuyd
, a chyfaill i wŷr fel
Thomas
Stephens
a
Daniel Silvan
Evans
a
John
Rhys
yn y wlad hon, a
Gaidoz
a
Schuchardt
ar y
Cyfandir
— ymwelodd y ddau ag ef yn y
Bala
. Pan gychwynnwyd
Y Cymmrodor
, yr oedd ‘
Ioan Pedr
’ yn un o'i
olygyddion
, ac ymddangosodd peth o'i waith ynddo ac yn y
Revue Celtique
. Y mae ei lawysgrifau bellach mewn rhan yn y
Llyfrgell Genedlaethol
ac mewn rhan yn
Llyfrgell Coleg y Gogledd
.
Llyfryddiaeth:
-
Journal of the Welsh Bibliographical
Society
, iv, 4 (
Rhagfyr 1933
), gyda llyfryddiaeth a darlun.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D.,
F.S.A., (1881-1969), Bangor