PENRY
,
JOHN
(
1854
-
1883
),
cenhadwr dan Gymdeithas Genhadol Llundain
;
g.
7 Ebrill 1854
, mab
John
a
Margaret
Penry
,
Tir-mawr
,
Llandeilo
,
Caerfyrddin
. Daeth yn aelod o'r
eglwys Annibynnol
yn y
Tabernacl
,
Llandeilo
, ac yn ddiweddarach yn
Providence
,
Llangadog
. Aeth oddi yno am ysbaid i
Loegr
, gan ddilyn ei grefft fel
prentis dilledydd
, ond dychwelodd yno i'r ysgol baratoi. Wedi cwrs yng
Ngholeg Lancashire
,
Manceinion
, apwyntiwyd ef gan y gymdeithas hon i faes
canolbarth Affrica
. Ordeiniwyd ef yn
Llandeilo
ar
11 Ebrill 1882
, a chyrhaeddodd
Zanzibar
a mynd ymlaen i
Urambo
. Bu'n rhaid iddo droi'n ôl oherwydd afiechyd, a bu f. yn
Kisowki
ar
21 Ebrill 1883
, ar ei ffordd i'r arfordir.
Llyfryddiaeth:
-
G. Penar Griffith
,
Cenhadon Cymreig
;
-
E. Lewis Evans
,
Cymru a'r Gymdeithas Genhadol, sef hanes ei
Chychwyn
, 1945
.
Awdur:
Y Parchedig Ddr. Evan Lewis Evans, D.Th., (1898-1978), Pontarddulais /
Abertawe