PENRY, JOHN (1563 - 1593), awdur Piwritanaidd

Enw: John Penry
Dyddiad geni: 1563
Dyddiad marw: 1593
Priod: Eleanor Penry (née Godley)
Plentyn: Deliverance Whitaker (née Penry)
Plentyn: Comfort Penry
Plentyn: Safety Penry
Plentyn: Sure-Hope Penry
Rhiant: Meredydd Penry
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: awdur Piwritanaidd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert Tudur Jones

Mab Meredydd Penry, Cefnbrith, plwyf Llangamarch, sir Frycheiniog. Derbyniwyd ef i Brifysgol Caergrawnt o Goleg Peterhouse, 11 Mehefin 1580, a graddiodd yn B.A. 21 Mawrth 1584. Yr oedd yn S. Alban's Hall, Rhydychen, o 28 Mai 1586, a graddiodd yn M.A. yno 11 Gorffennaf 1586. Dengys ei bryder yng nghylch prinder pregethwyr yng Nghymru yn ei lyfr cyntaf, A Treatise containing the Aeqvity of an Hvmble Svpplication, a gyflwynwyd i'r Senedd yn yr eisteddiad a ddechreuodd 15 Chwefror 1587 ac a barhaodd tan 23 Mawrth, gan Edward Dunn Lee a Job Throckmorton. O ganlyniad cymerwyd Penry i'r ddalfa gan i Whitgift wrthwynebu'r llyfr, ac ymddangosodd o flaen Llys yr Uchel Gomisiwn, ond fe'i rhyddhawyd. Priododd Eleanor Godley, Northampton, 5 Medi 1588. Yn nechrau 1588 ymddiddorodd Penry yng ngwasg ddirgel Robert Waldegrave, a hi a brintiodd ei ail lyfr, An Exhortation vnto the Gouernours and people of hir Maiesties countrie of Wales, yn Ebrill 1588. Methodd pob ymdrech i ddal yr awdur. Yn Awst 1588 cyhoeddodd drydydd llyfr, A Defence. Wedi cyhoeddi The Epistle, y cyntaf o bamffledau 'Marprelate,' dwysaodd yr ymchwil am y wasg gudd. Ni phenderfynwyd eto beth oedd perthynas Penry â Marprelate. Symudwyd y wasg o Lundain i Fawsley ac yna i Coventry a chyhoeddodd Svpplication Penry yn ogystal â phamffledau pellach gan Marprelate yn 1589. Gadawodd Waldegrave y wasg a chymerodd John Hodgkins ei le. Symudwyd y wasg i Wolston Priory ond daliwyd yr argraffydd newydd, a ffodd Penry i Sgotland yn 1589. Archwiliwyd tŷ Godley yn Northampton gan swyddogion yr archesgob, ond yn ofer. Yn 1590 ysgrifennodd Penry ei A Briefe Discovery fel ateb i ymosodiadau Richard Bancroft ar eglwys Sgotland. Dychwelodd i Loegr ym Medi 1592, ac ymunodd â dilynwyr ymneilltuol Henry Barrow yn Llundain. Bradychwyd ei bresenoldeb gan ficer Stepney a daliwyd Penry, 22 Mawrth 1592/3, yn Ratcliff, ac fe'i carcharwyd yn y Poultry Compter. Adeg yr ymchwiliad agoriadol gerbron Young a'r brodyr Vaughan ysgrifennodd ei 'Declaration of Faith and Allegiance.' Bu ymchwiliad cyhoeddus yn yr Old Bailey o flaen amryw ustusiaid, 5 Ebrill 1593, gydag ymchwiliad ar 10 Ebrill o flaen Henry Fanshawe a Richard Young. Ymddangosodd Penry am y tro cyntaf o flaen y King's Bench 21 Mai, ond ducpwyd ef yn ôl i'r carchar. Gwnaeth apêl frysiog at Burghley, a chafodd ei weld, ond yn ofer. Dechreuodd ei brawf o flaen y King's Bench 25 Mai 1593, ac fe'i cyhuddwyd ar sail Deddf Unffurfiaeth (1 Eliz. cap. 2). Defnyddiwyd ei bapurau preifat yn ogystal â'i lyfrau cyhoeddedig fel tystiolaeth yn ei erbyn. Dedfrydwyd ef i farw, ac fe'i dienyddiwyd yn S. Thomas a Watering 29 Mai 1593. Gadawodd weddw a phedair merch ieuanc, Deliverance, Comfort, Safety a Sure-Hope.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.