PARRY, WILLIAM (1743 - 1791), peintiwr portreadau

Enw: William Parry
Dyddiad geni: 1743
Dyddiad marw: 1791
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: peintiwr portreadau
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth
Awdur: Megan Ellis

mab John Parry, ' y telynor dall '. Ganwyd ef yn Llundain ar yr 2il o Fai 1743 wedi i'w dad symud yno o Riwabon, ac astudiodd yn ysgol arlunio Shipley, yn oriel dug Richmond, a'r academi yn St. Martin's Lane, cyn dyfod yn ddisgybl i Syr Joshua Reynolds. Enillodd amryw o wobrwyon Cymdeithas y Celfyddydau, ac etholwyd ef yn aelod o Gymdeithas Unedig yr Artistiaid. Wedi treulio peth amser yn peintio ger Rhiwabon, galluogwyd ef trwy haelioni ei noddwr, Syr Watkin Williams-Wynn, i fyned i'r Eidal yn 1770. Dychwelodd i Brydain yn 1775, ac yn 1776 etholwyd ef yn A.R.A.

Portreadau lled fychan eu maint oedd mwyafrif ei ddarluniau, ac yn ystod y blynyddoedd o 1776 i 1788 derbyniwyd 22 ohonynt ar gyfer arddangosfeydd yr Academi Frenhinol. Bu farw gwraig Parry, merch y pensaer Henry Keene, yn 1779, a threuliodd ef lawer o'i amser ar ôl hynny yn Rhufain. Dychwelodd i Gymru yn gynnar yn 1791, a bu farw 13 Chwefror yr un flwyddyn.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.