PARRY, THOMAS ('Llanerchydd '; c. 1809 - 1874), bardd

Enw: Thomas Parry
Ffugenw: Llanerchydd
Dyddiad geni: c. 1809
Dyddiad marw: 1874
Rhiant: Margaret Parry (née Williams)
Rhiant: Richard Parry
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd
Maes gweithgaredd: Eisteddfod; Barddoniaeth
Awdur: Hywel David Emanuel

mab Richard a Margaret Parry o Lannerch-y-medd, sir Fôn, a brawd i Richard Parry ('Gwalchmai'). Cyfrwywr oedd wrth ei grefft, a bu'n amlwg ym mywyd cymdeithasol a diwylliannol Llannerch-y-medd. Bu hefyd yn ddiacon ac yn ysgrifennydd yn y capel Annibynnol yn y pentref am amser hir. Ond fel bardd y cofir amdano yn bennaf. Enillodd ei wobr gyntaf yn eisteddfod Llannerch-y-medd yn 1835 am farwnad i'r Parch. John Richards, a bu'n fuddugol lawer tro yn ystod yr 20 mlynedd dilynol yn eisteddfodau Llundain, y Fenni, Merthyr Tydfil, Rhuddlan, a mannau eraill. Wedi cystudd byr, bu farw 11 Tachwedd 1874 yn 65 oed, gan adael ar ei ôl weddw a merch, a chladdwyd yn Llannerch-y-medd.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.