Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



PARRY , Syr THOMAS (bu f. 1560 ), gŵr llys ; mab Harry Vaughan ac ŵyr Syr Thomas Vaughan a gafodd ei wneuthur yn farchog ac wedyn a ddienyddiwyd gan Richard III , ac a oedd yn fab anghyfreithlon Syr Roger Vaughan , Tre Tŵr , sir Frycheiniog (cyndad Henry Vaughan , ‘ Silurist ’ [q.v.] ), ac yn ŵyr (trwy Syr Dafydd Gam [q.v.] ) i Syr Roger Vaughan , Bredwardine , a laddwyd yn Agincourt ( 1415 ). Gwenllian oedd ei fam, merch William ap Grono , yntau hefyd o sir Frycheiniog , eithr o Forgannwg wedi hynny. Oherwydd ei berthynas (o bell) â theulu'r Ceciliaid [q.v.] , a ymbriododd â Fychaniaid Brycheiniog , yr oedd Parry yn ddyledus, y mae'n debyg, am gael mynediad i lys Edward VI . Bu'n gwasnaethu'r dywysoges Elisabeth yn Hatfield , a darbwyllwyd arno gan Thomas , arglwydd Seymour , brawd y ‘ Protector ’ ac ewythr i'r brenin , i hyrwyddo ei gynllun i'w phriodi. Pan ddatguddiwyd y cynllwyn, cyffesodd Parry iddo obeithio y byddai i'w feistres gael peth cymorth o Gymru ; dihangodd rhag cael ei gosbi a bu'n parhau i'w gwasnaethu hi pan ddaeth Mari i'r orsedd. Wedi iddi hithau esgyn i'r orsedd gwnaeth Elisabeth ef yn farchog (‘ Thomas Parry of Wales ’), a'i ddewis yn ‘ Comptroller ’ ei thŷ a'i thylwyth; gwnaeth ef hefyd ( 20 Tachwedd 1558 ) yn aelod o'r Cyfrin Gyngor (o wyth person), ac, yn ddiweddarach, yn ‘ Master of the Wards ’ ( 26 Ebrill 1559 ) — ymddengys mai ef oedd y mwyaf ei ddylanwad o'i chynghorwyr personol i gyd hyd ei farw ar 15 Rhagfyr 1560 , pryd y daeth Cecil i gymryd ei le. Claddwyd ef yn abaty Westminster . Y mae darlun ohono yn Windsor , wedi ei wneuthur gan Holbein . Daeth i berchen tiroedd yn Berkshire , bu'n arglwydd-raglaw y sir honno yn 1559 , a bu'n eistedd drosti yn y Senedd .

Yr oedd cysylltiad ei fab, Syr THOMAS PARRY (a fu f. 1616 ), llysgennad , â Chymru yn llawer llai. Bu yntau'n cynrychioli Berkshire yn y Senedd o 1586 hyd 1614 (oddieithr yn 1610 pryd yr oedd yn aelod dros S. Albans ), a bu'n siryf Berkshire ddwywaith. O 1601 , pryd y gwnaethpwyd ef yn farchog , hyd 1607 , yr oedd yn llysgennad ym Mharis ; yn y ddinas honno bu Thomas Morgan , cynllwynwr gynt [q.v.] , yn ceisio ennyn ei ddiddordeb yn ei gynlluniau ef i geisio ailgymodi'r Pabyddion yn Lloegr . Ar 30 Rhagfyr 1607 fe'i gwnaethpwyd yn aelod o'r Cyfrin Gyngor , yn ‘ Chancellor of the Duchy of Lancaster ,’ ac yn ‘ Master of the Court of Wards ' — ac am tua naw mis yn 1610/11 bu gofal Arabella Stuart arno. Eithr dug y modd y gweithredodd ym mater etholiad Stockbridge yn yr ‘ Addled Parliament ’ ( 1614 ) gerydd y Senedd arno (yn arbennig felly gerydd yr aelodau o Gymru , a oedd yn eiddigeddus dros enw da eu gwlad), ac fe gollodd ei sedd a'i swydd o'r herwydd. Cafodd ei swydd yn ôl yn ddiweddarach, eithr bu f., yn ddi-blant, yn 1616 , a chladdwyd ef yn abaty Westminster .

Llyfryddiaeth:

  • Oxford Dictionary of National Biography ;
  • History of the County of Brecknock , ii, 174-5;
  • Poole , The Illustrated History and Biography of Brecknockshire , 1886 , 229;
  • Adroddiadau'r ‘Historical Manuscripts Commission,’ , Adroddiadau'r ‘Historical Manuscripts Commission,’ , i, xi, xii, 3 rd R. , 52;
  • Acts of the Privy Council . Record Commission, 1834–7; Record Publications , 1558-70 ;
  • Camden Soc., Letters from Sir Robert Cecil to Sir George Carew , Camden Society Publications, 1864 , 13, 34;
  • W. A. Shaw , Knights of England , 1906 , ii, 70.

Awdur:

Athro Emeritus Arthur Herbert Dodd, M.A., (1891-1975), Bangor