PARRY, RHISIART (1710 - 1763), bardd, ysgolfeistr, a chlochydd, Niwbwrch, ym Môn.

Enw: Rhisiart Parry
Dyddiad geni: 1710
Dyddiad marw: 1763
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: bardd, ysgolfeistr, a chlochydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg; Barddoniaeth; Gwasanaethau Cyhoeddus a Chymdeithasol, Gweinyddiaeth Sifil
Awdur: Ray Looker

Argraffwyd peth o'i waith, ac yn ei blith ' Araith Wgan ar Gân ' (Y Brython, 1863), a hefyd nifer o gerddi (un o leiaf ohonynt yn gyfieithiad o'r Saesneg) a gyhoeddwyd yn y 18fed ganrif; ceir rhestr ohonynt gan ' Myrddin Fardd ' yn Y Traethodydd, 1886. Ceir un enghraifft bendant o'i waith yn NLW MS 1666B (209b), sef carol plygain. Y mae'n debyg hefyd mai ef yw'r Richard Parry y ceir cerddi eraill o'i waith yn Bodewryd MS 73D , NLW MS 432B , NLW MS 559B , NLW MS 1238B: Barddoniaeth , NLW MS 6882D , NLW MS 7892B , a Swansea MS. 2. Yn ôl ei garreg fedd, sydd bellach wedi diflannu, bu farw ar 5 Ionawr 1763 yn 53 mlwydd oed. Claddwyd ef ym mynwent Llannerch-y-medd, gyferbyn â'r allor ar yr ochr ddeheuol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.