PARRY
,
RHISIART
(
1665?
-
1749
),
bardd
;
tybir ei fod yn frodor o
Dyserth
,
sir Fflint
. Ceir peth o'i farddoniaeth mewn llawysgrifau, a hefyd yn
Blodeu-Gerdd Cymry
a'r
Cydymaith Diddan
. Barddoniaeth rydd yw'r rhan fwyaf ohoni — carolau plygain a gwahanol faledi. Nid yw'n glir ai'r un gŵr yw ef â'r
Richard
Parry
,
athro ysgol
yn y
Roe Wen
, y cyfeirir at ei waith yn
Bibliog. of Welsh Ballads
. Dywedir iddo f. yn
1749
yn 83 mlwydd oed a'i gladdu wrth gongl ogleddol eglwys plwyf
Dyserth
.
Llyfryddiaeth:
-
Llawysgrif Cwrtmawr yn Llyfrgell Genedlaethol
Cymru
230 (34);
-
Llawysgrif Llyfrgell Genedlaethol Cymru
1238 (64);
-
C. Ashton
,
Hanes Llenyddiaeth Gymreig, 1651–1850
.
[1893?]
, 181;
-
Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion
Cymru
, 1870
.
Awdur:
Miss Ray Looker, (Mrs Ray Morgan), Caerdydd / Rhymni