PARRY
,
JOSEPH
(
1841
-
1903
),
cerddor
;
g.
21 Mai 1841
ym
Merthyr Tydfil
. Deg oed ydoedd pan aeth i
weithio mewn pwll glo
, a 12 oed yn dechrau
gweithio mewn gwaith haearn
. Fe'i magwyd mewn awyrgylch gerddorol;
canai alto mewn oratorïau
a berfformid gan gôr
Rosser
Beynon
[q.v.]
. Yn
1854
symudodd gyda'i rieni i
Dannville
,
Pennsylvania
,
U.D.A.
, lle y bu'n
gweithio mewn melinau-rholio-haearn
hyd
1865
, ac astudio harmoni yn ei oriau hamdden. Enynnodd ei fedr yn ennill ar
gyfansoddi mewn eisteddfodau cenedlaethol
yn
1863
a
1864
frwdfrydedd y cyhoedd, a chodwyd cronfa a'i galluogodd i fyned i'r
Royal Academy of Music
(
1868-71
). Wedi iddo ddychwelyd i
Danville
sefydlodd ysgol gerdd
yno. Dewiswyd ef yn
athro cerdd
(a
phennaeth adran newydd cerdd
) yng
Ngholeg y Brifysgol
,
Aberystwyth
; daliodd y swydd hon o
1874 hyd 1880
. Yn
1878
graddiodd yn
Mus. Doc. (Cantab.)
Erbyn hyn yr oedd yn cael galwadau mynych i weithredu fel
beirniad cerddorol
; yr oedd hefyd yn brysur gyda'i efrydwyr ac yn
cynnal cyngherddau
y cynhwysid ynddynt lawer o'i gynhyrchion ef ei hun. O
1881 hyd 1888
bu'n gweithio yn
Abertawe
— yn
organydd
capel Ebenezer
ac yn
bennaeth coleg cerdd
a sefydlasai yno. Yna, o
1888
hyd y bu farw, bu'n
ddarlithydd mewn cerddoriaeth
yng
Ngholeg Prifathrofaol Caerdydd
.
Yr oedd
Joseph
Parry
yn
gyfansoddwr
toreithiog — yn cynhyrchu (a hynny gyda rhwyddaneb) caneuon, cytganau, anthemau, tonau, a rhai gweithiau offerynnol. Cyfansoddodd amryw operâu; cawsai ei opera ‘
Blodwen
’ (
1880
) ei pherfformio tua phum cant o weithiau erbyn
1896
. Ymysg ei weithiau mwyaf y mae oratorïau
(‘
Emmanuel
,’
1880
; ‘
Saul
,’
1892
) a chantata (‘
Nebuchadnezzar
,’
1884
).
Darlithiai
lawer ac
ysgrifennai'n fynych i gylchgronau
. Yr oedd ei yrfa ramantus, ei ddiwydrwydd diflino, ei dalent rwydd, a'i addysg broffesiynol, yn ei wneuthur yn ffigur blaenllaw ym myd cerddorol
Cymru
yn ei gyfnod. Daeth ei dôn ‘
Aberystwyth
’ yn glasur. Bu f.
17 Chwefror 1903
ym
Mhenarth
, gerllaw
Caerdydd
.
Llyfryddiaeth:
-
E. Keri Evans
,
Cofiant Dr. Joseph Parry
, Caerdydd,
1921
,
1921
;
-
Y Cerddor
,
1913
.
Awdur:
Prifathro Gwilym Prichard Ambrose, M.A., Caerlleon-ar-Wysg