PARRY, JOSEPH (1744-1826), peintiwr ac ysgythrwr

Enw: Joseph Parry
Dyddiad geni: 1744
Dyddiad marw: 1826
Plentyn: James Parry
Plentyn: David Henry Parry
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: peintiwr ac ysgythrwr
Maes gweithgaredd: Celf a Phensaernïaeth
Awdur: Mary Gwyneth Lewis

Ganwyd yn 1744 yn Lerpwl, o dras Cymreig, ei dad yn beilat yno. Prentisiwyd ef i'r gwaith o baentio llongau a thai, ond astudiai gelfyddyd yn ei oriau hamdden. Yn 1790 symudodd i Fanceinion, lle yr adnabyddid ef fel ' Tad Celfyddyd.' Cafodd nifer fawr o noddwyr yno a phaentiodd amryw ddarluniau o fywyd cyffredin y ddinas. Un o'i ddarluniau gorau ydyw hwnnw o'r hen farchnadfa ym Manceinion. Mewn un arall o'i weithiau, ' Eccles Wake,' ceir 200 o luniau wedi eu tynnu, pob un ar wahân, o natur. Tynnai bortreadau hefyd a cheir llin-gerflun da ohono ganddo ef ei hun - y mae hwn yn un prin gan mai dim ond 10 copi a wnaed o'r plât. Bu farw ym Manceinion yn 1826.

Peintiwr hefyd oedd ei fab, DAVID HENRY PARRY; ganwyd ef ym Manceinion yn 1793 a bu'n astudio o dan hyfforddiant ei dad. Yn 1816 priododd Elizabeth Smallwood o Macclesfield, ac ym mis Mai 1826 symudodd i Lundain, lle y bu farw ar 15 Medi yr un flwyddyn. Claddwyd ef ym mynwent S. Martin-in-the-Fields.

Mab iau Joseph Parry oedd JAMES PARRY (bu farw 1871?), arlunydd. Dangoswyd llawer o'i waith, yn cynnwys golygfeydd o Fanceinion, yn y ddinas honno. Rhagorai fel ysgythrwr a chynhyrchodd lawer o ysgythriadau o'i waith ei hun ac o eiddo ei frawd ac eraill, yn arbennig ddarluniau o sir Gaerhirfryn. Ceir darlun ohono yn amgueddfa Salford.

Mab ieuengaf D. H. Parry oedd CHARLES JAMES PARRY; ganwyd ym Manceinion yn 1824, yno y cafodd ei addysg, ac y sefydlwyd ef mewn busnes wlân. Er nad oedd yn arlunydd proffesedig paentiai ddarluniau mewn olew yn gynnar yn ei oes, a châi farchnad barod iddynt. Priododd ag Alice Southern o Salford, a bu farw yn Llundain ar 18 Rhagfyr 1894, gan adael dau fab CHARLES JAMES PARRY a DAVID HENRY PARRY, hwythau hefyd yn arlunwyr.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.