Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



PARRY , ABEL JONES ( 1833 - 1911 ), pregethwr, diwinydd, a llenor ; g. 21 Tachwedd 1833 yn y Temperance Bach , y Rhyl , yn fab i Thomas a Susie Parry . Symudodd y teulu i Abergele ac yna i Lerpwl , lle yr ymunodd â'r Methodistiaid Calfinaidd , ond troes yn fuan wedyn at y Bedyddwyr . Dechreuodd bregethu yn 1854 a derbyniwyd ef i athrofa Pontypŵl . Ordeiniwyd ef yn olynydd i'r Dr. Ellis Evans [q.v.] yn Seion , Cefnmawr , yn 1858 , ac ef oedd ysgrifennydd cyntaf coleg Llangollen . Symudodd i Great Cross Street , Lerpwl , yn 1867 , ac oddi yno at y Saeson i Cloughfold ( Rossendale ) yn 1871 . Yn 1877 galwyd ef i fod yn olynydd R. A. Jones ym Methesda , Abertawe . Symudodd i Gaernarfon yn 1885 i gymryd gofal o'r Genedl Gymreig , eithr ymsefydlodd drachefn yn eglwys Saesneg Caerfyrddin yn 1885 , a dychwelodd i'w faes cyntaf yng Nghefnmawr yn 1888 . Ymddeolodd yn 1893 ac aeth i fyw i'r Rhyl . Pregethodd yn gyson hyd o fewn ychydig fisoedd i'w farw yn 1911 . Bu'n briod ddwywaith. Ef oedd llywydd Undeb Bedyddwyr Cymru yn 1896 . Dylanwadodd yn drwm ar bregethu ei enwad gan iddo gynnal ysgol i bregethwyr ieuainc yn y Cefnmawr . Yr oedd ei bregethau ef ei hunan yn gelfydd. Bu'n olygydd Y Greal , Y Genedl Gymreig , a Cenhadydd Cwmtawe ; a brithir y cyfnodolion â'i ysgrifau. Ei brif waith oedd ei esboniad galluog ar yr epistol at y Rhufeiniaid , 1896 . Bu f. 26 Gorffennaf 1911 , a chladdwyd ef yn y Rhyl .

Llyfryddiaeth:

  • Hanner canrif o lafur gweinidogaethol y Parch. Abel J. Parry, D.D., Rhyl yn cynnwys bywgraphiaeth, a phregethau (XXV) ei "Adgofion" o'i febyd hyd derfyn ei weinidogaeth yn y Cefn Mawr, ganddo ei hun , Bae Colwyn, ?1911 ;
  • Hanes y Bedyddwyr yn Nghymru , 1893–1907 , iv, 75, 354;
  • Y Greal sef Cylchgrawn Misol at wasanaeth y Bedyddwyr , 1911, 245 ;
  • Seren Cymru , Awst a Medi 1911 .

Awdur:

Y Parchedig Brifathro Tom Ellis Jones, M.A., B.D., (1900-75), Bangor