Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



PARRY , JOHN (‘ Y telynor dall ’; 1710? - 1782 ); g. ef ym Mryn Cynan yn agos i Nefyn , sir Gaernarfon , c. 1710 . Dywed Carnhuanawc mai Robert Parry , Llanllyfni , a ddysgodd iddo'r gelfyddyd o ganu'r delyn , a dywed Edward Jones (‘ Bardd y Brenin ’) iddo gael gwersi gan Stephen Shon Jones o Benrhyndeudraeth . Daeth John Parry yn un o delynorion gorau Prydain a bu'n canu'r delyn ym mhrif gyngherddau'r deyrnas yn Llundain , Caergrawnt , Rhydychen , a Dulyn . Penodwyd ef yn delynor Syr Watkin Williams Wynn yn Wynnstay , Rhiwabon . Cyfraniad mawr John Parry i Gymru oedd cyhoeddi tair cyfrol o alawon . Cyhoeddwyd y gyntaf dan yr enw Antient British Music yn 1742 ; cynorthwywyd ef gan Evan Williams [q.v.] , y telynor o Langybi , Arfon , i gasglu'r gyfrol hon. Yn 1761 dug allan A Collection of Welsh, English, and Scotch Airs , ac yn 1781 British Harmony, being a collection of Antient Welsh Airs . Gwasanaeth amhrisiadwy oedd cyhoeddi y casgliadau hyn o'r alawon, a dechreuwyd cyfnod newydd yng ngherddoriaeth Cymru drwyddynt. Bu f. yn 1782 — fis Tachwedd yn ôl y Gentleman's Magazine , ond Hydref, medd Edward Jones yn y Relicks of the Welsh Bards . Credir iddo gael ei gladdu ym mynwent Rhiwabon .

Llyfryddiaeth:

  • M. O. Jones , Bywgraffiaeth Cerddorion Cymreig , Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol, 1890 ;
  • R. Griffith , Llyfr Cerdd Dannau . [1913.] ;
  • Y Cerddor , Medi 1889 ;
  • J. Lloyd Williams , Y tri thelynor arloeswyr cerddorol Cymru yn y ddeunawfed ganrif , 1945 ;
  • Groves , Groves’ Dictionary of Music and Musicians , 4ydd arg., 1940 .

Awdur:

Robert David Griffith, M.A., (1877-1958), Hen Golwyn