PARRY, JOHN HUMFFREYS neu HUMPHREYS (1786-1825), hynafiaethydd.

Enw: John Humffreys Parry
Dyddiad geni: 1786
Dyddiad marw: 1825
Plentyn: John Humffreys Parry
Rhiant: Anne Parry (née Wynne)
Rhiant: Edward Parry
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Yr oedd ei dad, Edward Parry (1752 - 1805), fab Edward Parry, ' gent. ', o'r Nercwys yn Sir y Fflint, yn glerigwr; aeth i Goleg Iesu, Rhydychen, yn 1772, ond ni ddengys Foster (Alumni Oxonienses) iddo raddio, serch y rhoddir B.A. iddo mewn cyfeiriadau ato; priodola W. D. Leathart iddo ' high literary attainments.' Bu'n rheithor Llangar (1784-9) a Llanferres (1789-1805) - gweler Thomas, A History of the Diocese of St. Asaph, dan enwau'r plwyfi - ond yn yr Wyddgrug y preswyliai, gan gadw ysgol a gweithredu fel curad y plwyf hwnnw. Ei wraig oedd Anne Wynne. J. H. Parry, i bob golwg, oedd eu mab hynaf; ganwyd yn yr Wyddgrug, 6 Ebrill 1786, ac aeth i ysgol Rhuthyn (Thomas, A History of the Diocese of St. Asaph, ii, 132); bu wedyn yn swyddfa ei ewythr, cyfreithiwr yn yr Wyddgrug. Ar farw ei dad, etifeddodd beth cyfoeth, ac aeth yn 1807 i Lundain; galwyd ef i'r Bar yn 1811. Ond 'esgeulusodd ei alwedigaeth'; cwympodd i ddyled, a throes at lenora i gadw ei ben uwchlaw'r dŵr; sgrifennai i'r newyddiaduron dan y ffugenw ' Ordovex.' Yn 1819, cynlluniodd y Cambro-Briton, a dug allan dair cyfrol (1820-2) ohono; yn 1824 cyhoeddodd y geiriadur bywgraffyddol The Cambrian Plutarch. Yr oedd yn aelod o Gymdeithas y Gwyneddigion, ac yn un o'r gwŷr a atgyfododd Gymdeithas y Cymmrodorion yn 1820 - bu'n ysgrifennydd iddi am flwyddyn, a golygodd y gyfrol gyntaf (1822) o'i thrafodion. Pan benderfynodd y Llywodraeth yn 1822 argraffu gwaith hen haneswyr Prydain, penodwyd Parry i olygu 'r adran Gymreig o'r gwaith - wedi ei farw penodwyd Aneurin Owen yn ei le. Lladdwyd ef mewn ffrae, 12 Chwefror 1825, yn nhafarn y ' Prince of Wales,' Pentonville. Yng ngeiriau Leathart, yr oedd yn ' generally intelligent man, though somewhat hasty and overbearing.' Gadawodd weddw a phump o blant di-ymgeledd; casglodd y Gwyneddigion a'r Cymmrodorion, yn bennaf trwy ymdrechion ' Bardd Alaw ' (John Parry), dros £1,000 er eu budd. Un o'r plant oedd JOHN HUMFFREYS PARRY (1816 - 1880), bargyfreithiwr, un o'r diwethaf i wisgo'r hen enw 'Serjeant.' Y mae ysgrif arno yn y D.N.B.; yr oedd yn Radical cryf ac yn ddadleuydd enwog - cymerth ran mewn achosion hynod, e.e. y ' Tichborne Case ' ac achos Whistler yn erbyn Ruskin.

Mab arall (y pedwerydd) i Edward Parry o'r Wyddgrug oedd THOMAS PARRY (1795 - 1870), esgob. Yn ôl yr ysgrif arno yn y D.N.B. (sy'n enwi ei dad yn anghywir) fe'i ganwyd 'yn sir Ddinbych ' (gall felly mai yn Llanferres) yn 1795. Aeth i Goleg Oriel, Rhydychen, yn 1812, 'yn 17 oed'; graddiodd yn ddisglair yn 1816; bu'n gymrawd ac yn swyddog yng Ngholeg Balliol, 1818-25. Yn 1824, penodwyd ef yn archddiacon yn ynysoedd India'r Gorllewin; ac yn 1842 yn esgob y Barbados. Torrodd ei iechyd, a dychwelodd i Brydain yn 1869 i farw yn Malvern, 16 Mawrth 1870.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.