PARRY, HUGH ('Cefni '; 1826 - 1895), gweinidog gyda'r Bedyddwyr, bardd, llenor, a diwinydd

Enw: Hugh Parry
Ffugenw: Cefni
Dyddiad geni: 1826
Dyddiad marw: 1895
Priod: Mary Ann Parry (née Harding)
Rhiant: Ellinor Parry
Rhiant: Owen Parry
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Bedyddwyr, bardd, llenor, a diwinydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth
Awdur: Benjamin George Owens

Ganwyd ym mhlwyf Cerrig Ceinwen, Môn, 20 Medi 1826, yn fab i Owen ac Ellinor Parry, Tyddyn Sawdwr, Llangefni. Codwyd ef yn Annibynnwr yn Llangefni a Rhos-y-meirch, a'i ordeinio'n weinidog ym Magillt 26 Rhagfyr 1848, ond ymunodd â'r Bedyddwyr yn Llangefni 6 Hydref 1850 a bu'n weinidog yn Rhos-y-bol (Ionawr–Mai 1851), Dowlais (Mai 1851–5), Bangor (1855–7), Brymbo a Moss (1857–60), Talybont (Ceredigion) (1860–4), Llundain (Tottenham Court Road) (1864–7), a Chaerdydd (1867–70). Ymfudodd i America yn 1870 ac yno y treuliodd y rhan fwyaf o weddill ei oes, yn arbennig yn Dodgeville (Wisconsin) (1885-95), ond dychwelodd droeon i Gymru a bu'n weinidog yn Nhreffynnon yn 1884–5. Bu farw yn Llangefni 18 Mai 1895 a'i gladdu yn Rhos-y-meirch. Priododd (yn 1847, neu yng nghyfnod Rhos-y-bol) Mary Ann Harding, Caernarfon. Enillodd ar y bryddest yn eisteddfod genedlaethol Abertawe, 1863, a chyhoeddodd doreth o farddoniaeth ac ysgrifau o safon uchel yng nghylchgronau Cymru ac America.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.