PARRY, EDWARD (1798 - 1854), cyhoeddwr llyfrau a hynafiaethydd

Enw: Edward Parry
Dyddiad geni: 1798
Dyddiad marw: 1854
Rhiant: Mary Parry
Rhiant: Edward Parry
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: cyhoeddwr llyfrau a hynafiaethydd
Maes gweithgaredd: Hanes a Diwylliant; Argraffu a Chyhoeddi
Awdur: Idwal Lewis

Ganwyd yn 1798 yn Nhrelawnyd, Sir y Fflint, mab Edward a Mary Parry, ond symudodd i Gaerlleon yn gynnar yn ei fywyd, ac ymsefydlu yno fel llyfrwerthwr, yn gyntaf yn Exchange, Northgate Street, ac yn ddiweddarach yn Bridge Street Row. Yn ei siop lyfrau gwerthid amrywiaeth o weithiau llenyddol Gymreig, llyfrau, a darluniau, o'i waith ef ei hun ac eraill. Ymdaflodd i fywyd Cymreig y ddinas o'r cychwyn, a bu'n flaenllaw iawn gyda symudiadau a chymdeithasau crefyddol a gwladgarol. Bu ganddo ran amlwg yng nghychwyn cangen Gymreig Caerlleon o'r Gymdeithas Feiblaidd yn 1826, a bu'n ysgrifennydd iddi am nifer o flynyddoedd. Ym mis Ebrill 1822 cyfarfu saith o fasnachwyr ieuainc i ystyried ffurfio cymdeithas o Gymry 'r ddinas. Sefydlwyd Cymdeithas Cymmrodorion Caerlleon, Ebrill 1822, gyda Hugh Jones ('Erfyl') yn llywydd, ac Edward Parry yn ysgrifennydd, a bu yn y swydd honno hyd 1839. Ysgrifennwyd hanes The Chester Cambrian Societies gan Thomas Edwards yn 1906. Yn 1826 trefnodd Parry i'r gymdeithas gael darlithiau yn Gymraeg ar nos Sul, a chael clerigwr i gynnal gwasanaeth yn Gymraeg i Gymry 'r'ddinas. Yng Nghaer daeth Parry i gysylltiad ag Evan Evans ('Ieuan Glan Geirionydd') a'r Gwladgarwr, ac yn 1836 prynodd yr hawl i gyhoeddi'r cylchgrawn hwn, wedi i ' Ieuan ' fod yn golledwr trwyddo. Golygwyd ef o 1836 gan Hugh Jones ('Erfyl'), ond yn 1841 trosglwyddwyd ei gyhoeddi i Robert Lloyd Morris, Lerpwl. Cyhoeddwyd nifer o lyfrau Cymraeg neu Gymreig gan Parry : Coffhad am y Parch. Daniel Rowlands, gan John Owen, 1839; The Poetical Works of Richard Llwyd, 1837. Parry a ysgrifennodd y cofiant sy'n rhagair i'r llyfr hwn, ac efe hefyd a olygodd ac a gyhoeddodd Blodau Arfon, sef gwaith Dewi Wyn, 1842. Bu'n llwyddiannus fel ysgrifennydd traethodau ar destunau hanes i eisteddfodau 'r cyfnod. Cyhoeddwyd Historical Researches on the Flintshire Castles, 1830, a gyflwynwyd ganddo i eisteddfod Dinbych, 1830, a hefyd ei draethawd ar Undeb Cymru a Lloegr, 1837, a fu'n fuddugol yn eisteddfod Tegeingl a gynhaliwyd yn Nhrelawnyd yn 1829. Ysgrifennodd nifer o lyfrau ar gyfer teithwyr yng Ngogledd Cymru: Cambrian Mirror, 1843 (cafwyd tri arg. arall ohono); Railway Companion from Chester to Holyhead, 1848 (ail arg., 1849); Railway Companion from Chester to Shrewsbury. Prif waith Edward Parry ydyw Royal Visits and Progresses to Wales, a gyhoeddwyd ganddo yn 1850 (ail arg. yn 1851). Golygodd hwn iddo flynyddoedd o waith ymchwil a chasglu deunydd ar hyd a lled y wlad. Bu farw 25 Mawrth 1854 a'i gladdu yng Nghaer.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.