PARRY
,
DAVID
(
1760
-
1821
),
gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd
;
g.
13 Chwefror 1760
yn
Llwyndiriad
,
Caeo
,
sir Gaerfyrddin
, mab
Dafydd
Parry
. Ymunodd â'r
Methodistiaid
yn ieuanc a dechreuodd
bregethu
yn
1778
. Bu'n efrydydd am dymor byr yn
Nhrefeca
. Priododd â
Margaret
Evans
,
Llofft-wen
,
Llanwrtyd
, yn
1784
, a symudodd i fyw i'r
Gilfach
,
Llanwrtyd
,
c.
1797-8
. Yr oedd yn un o'r fintai a neilltuwyd yn ordeiniad cyntaf y
Methodistiaid
yn
Llandeilo Fawr
,
1811
. Yr oedd yn
bregethwr
nodedig iawn a gwasnaethai'n aml yn y sasiynau. Bu f.
27 Ebrill 1821
, a chladdwyd ef y tu mewn i
gapel Rhydybere
.
Llyfryddiaeth:
-
Y Drysorfa
,
1834, 65
;
-
Y Cylchgrawn
,
1884
, 86;
-
Methodistiaeth Cymru
, 1851–6
, iii, 335;
-
Joseph Evans
,
Biographical Dictionary of Ministers and
Preachers of the Welsh Calvinistic Methodist Body…to the
close of the year 1850
, 1907
, 234;
-
J.M. Jones
,
Ordeiniad 1811 ymysg y Methodistiaid
Calfinaidd
, 1911
, 147.
Awdur:
Y Parch. Gomer Morgan Roberts, M.A., (1904-93), Pont-rhyd-y-fen /
Llandudoch / Llandybïe