PARK neu PARKES, JAMES (1636 - 1696), Crynwr

Enw: James Park
Dyddiad geni: 1636
Dyddiad marw: 1696
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: Crynwr
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Naill ai fe'i ganwyd yng nghyffiniau'r Trallwng neu Wrecsam, yn 1636, neu o leiaf fe fu'n byw yno am gyfnod ac yn un o Annibynwyr y naill le neu'r llall - Wrecsam, efallai, sy'n fwyaf tebyg. Troes at y Crynwyr, a theithiodd yn eu gwasanaeth, ym Mhrydain ac ar y Cyfandir. Ymwelodd â Chymru fis Mawrth 1662/3, ac yn Wrecsam (9 Mawrth) sgrifennodd A Lamentation and Warning … to all the Professors in North Wales, especially to those about Wrexham … and Welsh-Pool, … whom formerly I have known and walked with in a fellowship and worship - apêl at ei gyd- Ymneilltuwyr gynt i droi at y goleuni. Nid ymddengys hwn yn y rhestr o'i weithiau (17 ohonynt), ac ni chyhoeddodd ef mohono. Eithr gadawodd gopi ohono yn y Cloddiau Cochion, ac argraffwyd ef yn ei grynswth gan Richard Davies, y Crynwr, yn ei hunangofiant. Bu farw yn Southwark, 11 neu 12 Tachwedd 1696, yn 60 oed. Y mae ysgrif arno, gyda rhestr o'i weithiau, yn y D.N.B.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.