Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



PALMER , HENRY ( 1679 - 1742 ), gweinidog Annibynnol ; g. yn Llwyndrysni , Llan-gan , Caerfyrddin . Ffermwr oedd ef, ac aelod o gynulleidfa Henllan Amgoed ; ond yn y gwrthryfel yn erbyn Jeremy Owen [q.v.] yno yn 1711 , dilynodd Mathias Maurice [q.v.] i'r gwersyll arall yn Rhyd-y-ceisiaid , a daeth yn henuriad athrawiaethol yno. Eithr gyda'i holl ymlyniad wrth egwyddorion Calfiniaeth ac Annibyniaeth , gŵr hynaws a hoffus ynddo'i hun oedd Palmer ; ac y mae'n werth sylwi bod Jeremy Owen a Maurice fel ei gilydd, er garwed eu hiaith am bobl eraill, yn cytuno yn eu parch dyfnaf at Palmer . Wedi i sŵn y frwydr ddistewi, a phan oedd bugeiliaeth Henllan yn wag drachefn, gwahoddwyd Palmer i ddychwelyd i'w hen eglwys yn Henllan , ac yn 1721 urddwyd ef yn fugail arni. Yno y bu weddill ei fywyd. Pan dorrodd y Diwygiad Methodistaidd allan, gwelwyd ewyllys dda Palmer unwaith eto. Bu Howel Harris yn aros yn ei dŷ am noson (10 Mawrth) yn 1740 , ac yr oedd Palmer yn un o'r rhai a arwyddodd lythyr ( Trevecka Letter 231 ) at Harris i'w ailwahodd i'r ardal. Bu f. 12 Rhagfyr 1742 . Yr oedd un o'i feibion, GEORGE PALMER (a fu f. 1750 ), yn weinidog yn Abertawe ; bu un arall, John Palmer , yn henuriad dylanwadol iawn yn Henllan am faith flynyddoedd — bu f. 1 Ionawr 1800 , yn 86 oed. Olynydd (1746) Henry Palmer ym mugeiliaeth Henllan oedd Thomas Morgan [q.v.] .

Llyfryddiaeth:

  • Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru , iii, 340, 341, 347, 352;
  • A History of Carmarthenshire , 1935–9 , ii, 1939 — chwilier y fynegai.

Awdur:

Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D., F.S.A., (1881-1969), Bangor