PADARN
(
c.
560
),
sant Celtig
y dywedir ei fod yn gyfoes â
Dewi
[q.v.]
a
Teilo
[q.v.]
. Cysylltir ef â nifer bychan o eglwysi yn siroedd
Aberteifi
a
Maesyfed
. Ychydig o ddefnyddiau dilys ynglŷn ag ef sydd i'w gael yn yr unig fuchedd (‘vita’) iddo a geir yn y casgliad o ysgrifau'r Canol Oesoedd a elwir yn
B.M. Vespasian A, xiv
. Dywedir yn y fuchedd hon iddo ddyfod o
Lydaw
. Y mae'r ffurf
Ladinaidd
Paternus
yn enw ar (o leiaf) ddau
sant
arall o
Lydaw
, ac felly, pan ddaethpwyd i ysgrifennu buchedd sefydlydd
Llanbadarn Fawr
yng
Ngheredigion
, nid ydyw'n syndod o gwbl i'r fuchedd honno gael ei chymysgu megis o raid â bucheddau'r seintiau
Padarn
eraill. Gwnaeth y
canon
G. H.
Doble
ymdrech ganmoladwy i ddatgylymu'r clymwaith a wnaethpwyd gan ysgrifenwyr
Normanaidd
bucheddau saint; y casgliad y daeth
Doble
iddo ydoedd na ellir mwyach dderbyn y dybiaeth bod
Padarn
yn hanfod o
Lydaw
, ac y mae ef yn pleidio barn ysgolheigion yr oes bresennol sydd yn awgrymu y dylid chwilio yn
ne-ddwyrain Cymru
am y ‘
Llydaw
’ y daeth
Padarn
ohoni. Os o'r rhan honno o'r wlad y tarddodd y
sant
, yna y mae'n bosibl esbonio dosbarthiad yr eglwysi hen sydd yn dwyn ei enw trwy dybied iddo gyrraedd hyd at
orllewin Cymru
trwy drafaelio dros y môr — y mae ei eglwys fawr yng
Ngheredigion
yng ngolwg y môr — ac i'w addoliad (‘cult’) ymwasgar i mewn i'r wlad trwy'r cymoedd rhwng y mynyddoedd a chyrraedd i ddyffrynnoedd
sir Faesyfed
. (Ceir enghreifftiau adnabyddus yn yr oes haearn gyn-Rufeinaidd o ddiwylliant yn ymledu ac yn arddangos dulliau ymwasgar cyffelyb yng
nghanolbarth Cymru
). Parhaodd enwogrwydd ‘clas’
Llanbadarn Fawr
yng
Ngheredigion
am beth amser ar ôl marw
Padarn
; yn wir, parhaodd hyd y cyfnod
Normanaidd
, oblegid fe sylwodd
Gerallt Gymro
pan aeth trwy yr ardal yn
1188
fod y ‘clas’ yn parhau, er ei fod erbyn hynny mewn ystad o ddirywiad.
Llyfryddiaeth:
-
G. H. Doble
,
Saint Patern, Cornish Saints Series,
43
, 1940
(Cornish Saints Series, 43),
1940
;
-
E. G. Bowen
, ‘The Celtic Saints in Cardiganshire,’ yn
Transactions of the Cardiganshire
Antiquarian Society
, i, 1-15,
1950
;
-
Baring-Gould
a
J. Fisher
,
The Lives of the British Saints
, iv, 39-51.
Awdur:
Yr Athro Emrys George Bowen, M.A., F.S.A., (1900-83), Aberystwyth