Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



OWEN , WILLIAM ( 1830 - 1865 ), cerddor ; g. 11 Mai 1830 yn Nhremadog , sir Gaernarfon , mab William a Beti Owen . Cafodd ei addysg yn Ysgol Frutanaidd Pont-ynys-galch , Porthmadog , ac wedi hynny o dan Owen Griffith , Garn Dolbenmaen . Wedi marw ei dad bu raid iddo gynorthwyo ei frawd i gario ymlaen fasnach goed ei dad. Dechreuodd astudio cerddoriaeth yn ieuanc, a chafodd wersi ar ganu'r organ gan Mrs. Coventry (nith i'r iarll Coventry ) a gadwai ysgol breifat yn Nhremadog . Yn eisteddfod Bethesda , 1851 , enillodd y wobr gyda chanmoliaeth ‘ Tanymarian ’ am yr anthem, ‘ Cân Moses a Chân yr Oen. ’ Yr un flwyddyn cystadleuodd yn eisteddfod Madog ar ‘ Gweddi Habacuc .’ Cyhoeddwyd ei anthem, ‘ Wrth afonydd Babilon, ’ gyda chyfeiliant Dr. Wesley . Cyfansoddodd amryw garolau a thonau cynulleidfaol. Ceir y dôn ‘ Porthmadog ’ o'i waith yn Caniadau y Cysegr a'r Teulu . Yn Y Cerddor Cymreig am Chwefror 1865 ceir ysgrif ganddo ar ‘ Melodedd, amrywiaeth ac ystwythder yn y gwahanol leisiau .’ Bu f. 2 Awst 1865 , a chladdwyd ef ym mynwent Penmorfa . (Mae anthem goffadwriaethol iddo, ‘ Dyddiau dyn sydd fel glaswelltyn ,’ o waith Gwilym Gwent yn Y Cerddor Cymreig , rhifau 64 a 65.)

Llyfryddiaeth:

  • Y Cerddor , Gorffennaf 1893 ;
  • M. O. Jones , Bywgraffiaeth Cerddorion Cymreig , Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol, 1890 ;.

Awdur:

Robert David Griffith, M.A., (1877-1958), Hen Golwyn