OWEN, WILLIAM ('Philotheoros '; 1789 - 1841); pregethwr gyda'r Bedyddwyr, ysgolfeistr, ac almanaciwr

Enw: William Owen
Ffugenw: Philotheoros
Dyddiad geni: 1789
Dyddiad marw: 1841
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: pregethwr gyda'r Bedyddwyr, ysgolfeistr, ac almanaciwr
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg; Hanes a Diwylliant; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Barddoniaeth; Ysgolheictod ac Ieithoedd; Gwyddoniaeth a Mathemateg
Awdur: Benjamin George Owens

Ganwyd yn 1789. Brodor o ardal Abergwaun, eithr cysylltir ei enw hefyd â Threletert, a dywedir ei godi i bregethu yn Llangloffan, ond yn Aberteifi y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes, yn cadw ysgol. Yr oedd yn ŵr hyddysg mewn amryw o bynciau - yn ieithydd, llenor, seryddwr, a bardd yn y mesurau rhyddion. Bu'n olygydd almanac a gyhoeddid yn Aberteifi yn y 30'au; ond ei ddiddordeb mwyaf adnabyddus, fel yr awgryma ei ffugenw, oedd llunio ac ateb posau mathemategol yn y Wasg. Bu farw, yn hen lanc, 15 Hydref 1841, yn 52 oed, a'i gladdu yn Siloam, y Ferwig.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.