OWEN
,
WILLIAM
(
1785
-
1864
),
hynafiaethydd
;
g.
1785
ym
Miwmares
, a bu'n ddisgybl yn yr ysgol ramadeg yno. Gwasnaethodd fel
môr-filwr
yn y rhyfel yn erbyn
Napoleon
. O
1824
ymlaen cysylltir ei enw â thref
Caernarfon
, lle yr adwaenid ef fel
William
Owen
‘
Y Pab
.’ Yn ôl ei dystiolaeth ef ei hun, derbyniodd y llysenw hwn mewn canlyniad i ryw bamffled a gyhoeddodd yn
1829
yn amddiffyn y safiad a wnaeth
ardalydd Môn
yn
Nhŷr Arglwyddi
dros ryddfreiniad y
Pabyddion
. Ac am yr un rheswm, meddai, aeth mor ffiaidd yng ngolwg ei gydwladwyr fel na chwenychai neb roddi gwaith iddo. Ymddengys mai'n
llifio coed mewn pwll llif
y bu am gyfnod helaeth o'i oes. Ymddiddorai'n fawr mewn
hynafiaethau
; clywir amdano o bryd i'w gilydd yn
archwilio hen gofrestrau
yn
Llundain
, neu'n
dehongli hen arysgrifau
yma ac acw yng
Nghymru
. Ond fel
hanesydd
, hygoelus i'r eithaf ydoedd, fel y dengys hynny o'i waith sydd ar glawr, sef
Drych Crefyddol yn dangos Dechreuad y Grefydd Brotestanaidd, etc.
,
1824
;
Hanes Cyflafan neu Ddinystr y Beirdd Cymreig, etc.
(traethawd buddugol yn
eisteddfod Cymreigyddion Caernarfon
,
1824
);
Y Drych Bradwriaethol, sef Hanes Brad y Cyllyll Hirion
,
1825
;
Hanes Dechreuad Cenedl y Cymry
,
1826
;
Hanes Owain Glandwr, [
sic
]
1833
; a
History of Dolbadarn Castle, Llanberis
(d.d.). Treuliodd ei oes mewn dygn dlodi a bu f.
15 Chwefror 1864
.
Llyfryddiaeth:
-
J. E. Lloyd
,
Owen Glendower / Owen Glyn Dwr
,
1931
, 157-8, ac yn
Trafodion Cymdeithas Hynafiaethwyr a
Naturiaethwyr Môn
,
1921, 43-4
;
-
Cyfaill yr aelwyd cylchgrawn misol at
wasanaeth oriau hamddenol y Cymry, yn cynnwys chwedleuaeth,
cerddoriaeth, barddoniaeth, gwyddoniaeth, a llenyddiaeth
bur, adeiladol, a dyddanus
a'r
Y Frythones at wasanaeth merched a gwragedd
Cymru
, Llanelli, 1879-1891
,
1892, 93-5
;
-
Gwaith y Parch. Walter Davies (Gwallter
Mechain)
, tair cyfrol, Caerfyrddin, 1866-1868
, ii, 512-41;
- U.C.N.W. Plas Newydd correspondence;
-
Carnarvon and Denbigh Herald
, 1832
ff
,
20 Chwefror 1864
.
Awdur:
Emyr Gwynne Jones, M.A., (1911-72), Bangor