OWEN, THOMAS (1748 - 1812), clerigwr a chyfieithydd

Enw: Thomas Owen
Dyddiad geni: 1748
Dyddiad marw: 1812
Rhiant: Margaret Owen
Rhiant: Thomas Owen
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: clerigwr a chyfieithydd
Maes gweithgaredd: Crefydd; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu; Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: Hywel David Emanuel

bedyddiwyd 3 Medi 1748, mab Thomas a Margaret Owen, Rhiwlas, ym mhentre Pentraeth, Môn. Ar 20 Mawrth 1767 ymaelododd yng Ngholeg Iesu, Rhydychen, gan raddio yn B.A. yn 1770. Yn gynnar yn 1771, geilw ei hun yn ddirprwy i lyfrgellydd Bodley. Urddwyd ef yn ddiacon yn Ordeiniad y Drindod, 1771, gan esgob Rhydychen ar lythyr gollyngdod oddi wrth esgob Bangor, gyda hawl i guradiaeth Llanddeusant ym Môn. Graddiodd yn M.A. o Goleg y Frenhines, Rhydychen, yn 1773. Cyflwynwyd ef yn 1779 i reithoraeth Upton Scudamore, Wiltshire, a pharhaodd i ddal y fywoliaeth honno hyd ei farw yn sir Fôn ym mis Mai 1812. Cyfieithodd Owen y gweithiau canlynol yn Saesneg : Three Books of M. Terentius Varro concerning Agriculture, 1800; Agricultural Pursuits, translated from the Greek, 1805-6; Fourteen Books of Palladius on Agriculture, 1807.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.