OWEN, ROBERT (1858 - 1885), athro a bardd

Enw: Robert Owen
Dyddiad geni: 1858
Dyddiad marw: 1885
Rhiant: Margaret Owen
Rhiant: Gruffydd Owen
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: athro a bardd
Maes gweithgaredd: Addysg; Barddoniaeth
Awdur: William Llewelyn Davies

Ganwyd 30 Mawrth 1858 yn ffermdy bychan Tai Croesion, heb fod ymhell o eglwys Llanaber, Sir Feirionnydd, mab Gruffydd Owen, badwr a ffermwr, a Margaret ei wraig. Casglwyd manylion ei yrfa a chyhoeddwyd rhai o'i ganeuon gan Syr Owen M. Edwards yn 1904 yn un o gyfrolau'r gyfres o lyfrau glas sydd yn unffurf â llyfrau ' Cyfres y Fil; o'r gwaith hwnnw y cymerwyd y manylion a grynhoir yma. Pan oedd y bachgen yn 4 oed symudodd gyda'i rieni i fferm Llwyn Gloddaeth, tua milltir o'r Abermaw i gyfeiriad Dolgellau. Eithr ni lwyddodd y tad fel ffermwr, a cheir y teulu yn byw yn Abermaw. Yno bu Robert Owen yn yr Ysgol Frutanaidd a agorasid yn 1868 (1869?). Daeth yn is-athro yn yr ysgol honno a chafodd gyfle i ddysgu peth Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg, ac Eidaleg, trwy ddyfod i adnabod Ffrancwr a ymsefydlasai yn Abermaw. Nid aeth i Goleg Bangor i baratoi ar gyfer bod yn athro trwyddedig gan iddo golli ei rieni a bod gofal brawd a dwy chwaer - y tri yn iau nag ef - ar ei ysgwyddau. Aeth i Aberystwyth i fod yn is-athro yn ysgol Jasper House ac oddi yno i swydd gyffelyb yn Bourne College, Birmingham. Cafodd y darfodedigaeth afael arno a phenderfynodd fyned i Awstralia i chwilio am atgyfnerthiad corfforol. Cyrhaeddodd Melbourne ar 7 Ebrill 1879. Cafodd le fel athro teulu gan Wyddelod a oedd yn byw yn fferm Mullagh, gerllaw Harrow, Victoria, eithr bu farw yno 23 Hydref 1885. Fel y mae Owen M. Edwards wedi pwysleisio, ' bardd y môr' ydoedd Robert Owen yn anad dim.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.