Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



OWEN , ROBERT ( 1834 - 1899 ), Pennal , sir Feirionnydd , gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a llenor ; g. yn 1834 ; yr oedd yn fab i Robert Owen , Neuadd Ddu , Blaenau Ffestiniog , a'i fam yn ferch Tyddyn Llwyn , Llanfrothen . Wedi iddo fod yng Ngholeg y Bala ( 1857-61 ) bu ym Mhrifysgol Glasgow ar bwys ysgoloriaeth y Dr. Williams , a derbyniodd ei radd yno. Bu'n fugail eglwysi Pennal a Maethlon 1865-99 . Yr oedd yn llenor a hanesydd da, a daeth o'i law amryw gyfrolau megis Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionnydd (dwy gyfrol), 1888 ; Ysgolfeistriaid Mr. Charles ; Cofiant Dafydd Rolant, Pennal ; Cofiant y Parch. Griffith Williams, Talsarnau . Bu f. 8 Tachwedd 1899 .

Llyfryddiaeth:

  • Blwyddiadur y Methodistiaid Calfinaidd , 1901, 194, 195 ;
  • Y Drysorfa , 1899, 564 ;
  • Y Goleuad , 15 Tachwedd 1899 .

Awdur:

Y Parch. Richard Thomas, B.A. (1872-1950), Caernarfon