OWEN, RICHARD (fl. 1552),

Enw: Richard Owen
Rhyw: Gwryw
Maes gweithgaredd: Ysgolheictod ac Ieithoedd
Awdur: William Llewelyn Davies

Cymro a wnaeth gyfieithiad Cymraeg o De Institutione Feminae Christianae, sef un o weithiau mwyaf adnabyddus Juan Luis Vives (ganwyd 1492 yn Valencia, Sbaen), un o feddylwyr ac ysgrifenwyr pennaf ei oes ar gwestiwn addysg. Ni wyddys pwy oedd Richard Owen eithr fe'i cynhwysir yma fel enghraifft o lawer o Gymry yng nghyfnod y Tuduriaid a gymerai ddiddordeb yn hanes a llenyddiaeth Sbaen. Ni chyhoeddwyd mo gyfieithiad Richard Owen, a geir yn Peniarth MS 403 . Dyma sut y mae'r gwaith yn cychwyn - 'Llyma lyver Gwir ffrwythlaw[n a] moddus a elwir dysgeidieth kristnoges o verch yn gyntaf a wnaethpwyd yn lladyng drwy r Gwir enwog ysgo[l]haic maister lewys vives ac ai treiglwyd or lladyng mewn Kymraec drwy [R]ichard Owen. Ar lly[ver hwn?] a ddechreued i scrivennu [yn?] gymraec pymed die […] RRagvyr pann o[edd] oed yn arglw[ydd] ni Jesu g[r]ist y[n] 155[2?].' Cyflwynodd Vives y gwaith i Katherine of Aragon, gwraig y brenin Harri VIII. Cyhoeddwyd 40 argraffiad ohono yn y 16eg ganrif, ac fe'i cyfieithwyd yn gynnar yn ieithoedd Sbaen, Ffrainc, yr Eidal, yr Almaen, a Lloegr.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC-RUU/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.