OWEN (TEULU), Plas Du, Sir Gaernarfon

Daeth y cyfenw Owen yn sefydlog yn yr hen linach hon yn Sir Gaernarfon (yn disgyn o Collwyn ap Tangno) yn adeg plant OWEN AP GRUFFYDD a'i wraig Margaret, merch Foulk Salusbury, Llanrwst (a gwraig Gruffydd Madryn yn ddiweddarach); yr oedd amryw o aelodau'r teulu â chysylltiad â'r adfywiad Pabyddol a ddilynodd esgymuno Elisabeth yn 1570.

Yr oedd THOMAS OWEN, y mab hynaf, yn siryf Sir Gaernarfon, 1568-9, eithr dechreuodd (c. 1573) ei absenoli ei hun o wasanaethau Eglwys Loegr; yn 1576 credid ei fod yn paratoi i drosglwyddo'r stad i'w frawd iau Foulk ac ymuno â'i frodyr eraill (isod) dros y môr. Yn dilyn y drwgdybio hwn daeth cyfres o ymchwiliadau swyddogol ac achosion cyfreithiol (1578 ymlaen) pryd y cyhuddwyd ef o fod yn Babydd, o roddi lloches i offeiriaid Pabaidd, o ohebiaeth anghyfreithlon a theyrnfradwrol â'i frawd Hugh yn Brussels, ac o gamddefnyddio degymau Aberdaron er lles y brawd hwnnw. Wedi iddo fod yng ngharchar am dymor ymddengys i Thomas gydymffurfio; y mae'n debyg ei fod wedi marw erbyn 1595 gan adael y stad i'w fab hŷn, OWEN THOMAS OWEN (a fu farw cyn 1618); eithr gwthiwyd hwnnw allan o'r stad (c. 1614) gan fod yr echwynwyr yn pwyso, e.e. Syr Thomas Myddelton (1550 - 1631) a Syr William Maurice. Trydydd mab Thomas Owen oedd John Owen, yr epigramydd.

Mab iau i Owen ap Gruffydd oedd HUGH OWEN (1538 - 1618), cynllwynwr Pabyddol. Cafodd ei addysg yn Lincoln's Inn (21 Ebrill 1556), a bu yng ngwasanaeth teuluol Henry Fitzalan, 12fed iarll Arundel ac arglwydd Croesoswallt, a bu gyda'i feistr, ac yng nghwmni Humphrey Llwyd, yn y 'Diet' yn Augsburg (1566); dylanwadwyd arno gan yr iarll i gymryd rhan mewn cynllwynion ar ran Mari frenhines Sgotland. Oherwydd fod iddo ran yn y ' Ridolfi Plot ' (1571), bu raid iddo fynd i ymguddio - ar y cyntaf gyda Llwydiaid Llwyn y Maen a Phabyddion eraill o gwmpas Croesoswallt, yna trwy Sbaen i Brussels (1572), lle y bu'n derbyn pensiwn gan Sbaen ac yn gynghorydd ar faterion ynglŷn â Lloegr i lywodraeth yr Iseldiroedd am tua 40 mlynedd, gan ymweled yn aml â'r Eidal, Sbaen, a Ffrainc, gan gynnal cynrychiolwr dirgel ar ôl y llall yn gyson yn Lloegr, a chan ddefnyddio Cymry mewn byddinoedd Seisnig yn Fflandrys i hwyluso cynlluniau milwrol Sbaen yno. Achwynid arno fel cychwynnydd amryw o'r cynllwynion yn erbyn Elisabeth; y mae'n sicr fod iddo ryw ran ym Mrad y Powdr Gwn. Er nad ydoedd ef ei hunan (fel y dywedir weithiau) yn aelod o Gymdeithas Iesu, yr oedd o 1587 ymlaen yn bleidydd di-ildio i bolisi aelodau'r gymdeithas honno ac i'r sawl o'r Pabyddion a oedd yn caru Sbaen - o'i gymharu â chyd-alltudion megis Thomas Morgan (1543 - 1605) neu Owen Lewis, esgob Cassano, a oedd yn ffafrio cael teyrn o Sgotland i esgyn ar orsedd Lloegr. Gwnaeth Llywodraeth Lloegr geisiadau o 1574 ymlaen am iddo gael ei anfon allan o'r wlad, eithr gwrthodwyd hwy dro ar ôl tro hyd 1610-11, pryd yr ymneilltuodd Owen i'r Coleg Seisnig yn Rhufain, lle y bu farw ar 30 Mai 1618. Cadwai ei gysylltiad â mudiadau yng Nghymru a defnyddiai Gymraeg yn aml yn ei ohebiaeth ddirgel. Bu farw'n ddibriod. Di-etifeddodd ei nai John Owen yr epigramydd, a oedd yn Brotestant, yn ffafr ei nai Charles Gwynne (gweler dan Bodvel), a oedd yn Babydd; y nai hwn a fu'n gyfrifol am y gofeb i'w ewythr a osodwyd ar fur yn y Coleg Seisnig yn Rhufain (Archæologia Cambrensis, I, viii, 130-1).

Trydydd mab Owen ap Gruffydd ydoedd ROBERT OWEN (fl. 1570), canon Mantes. Y mae'n debyg iddo yntau hefyd gael ei ddwyn i fyny yn nheulu iarll Arundel. Rhoes Arundel iddo fywoliaeth West Felton, Swydd Amwythig, yn 1560, eithr fe'i collodd hi neu fe ymddiswyddodd yn 1570 a chael trwydded i fynd dros y môr i astudio. Bu'n astudio'r gyfraith yn Douay (1570-3); aeth ymlaen i Rufain, ac ar ôl bod adref unwaith o leiaf fe ymsefydlodd yn Ffrainc gyda phapurau yn profi bod 'nuncio' y Pab yn ei gymeradwyo (1576). Bu'n byw ym Mharis mewn cyswllt agos â'r Pabyddion alltudiedig o Brydain a oedd ym Mharis a lleoedd eraill ac yn gohebu'n gyson (yn Gymraeg a Saesneg) gyda'i frawd Hugh. Yn gynnar yn y ganrif nesaf daeth yn ganon Mantes (neu, efallai, Le Mans). Ym mis Rhagfyr 1602 cafodd ei anfon gan Lywodraeth Ffrainc, yn answyddogol, i Brussels i ystyried (gyda'i frawd Hugh a'r rhai a oedd yn hoffi Sbaen) hawliau Iago VI, frenin Sgotland, ar Goron Lloegr. Pan glywyd amdano ddiwethaf oll (7 Chwefror 1604) yr oedd yn achwyn yn arw yn erbyn canlyniadau esgyniad Iago VI i'r orsedd. Bu brawd a oedd yn iau nag ef, sef JOHN OWEN, yn astudio yn Douay hefyd.

Awdur

Ffynonellau

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.