OWENS, OWEN (1794 - 1838), prif ddyn y 'Wesle Bach.'

Enw: Owen Owens
Dyddiad geni: 1794
Dyddiad marw: 1838
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: prif ddyn y 'Wesle Bach
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Preswyliai yn Caergron, Llaneilian (Amlwch), ac yr oedd yn bregethwr cynorthwyol gyda'r Wesleaid yn 1816. Teimlid cryn anniddigrwydd ymysg pregethwyr cynorthwyol yr enwad yn erbyn awdurdod y gweinidogion urddedig; ac yn 1831 cyfarfu deuddeg ohonynt, ac Owens ar y blaen, i ystyried y sefyllfa. Ar 6 Hydref 1831 penderfynwyd ymado â'r cyfundeb Wesleaidd a ffurfio enwad newydd. Owen Owens oedd y selocaf yn y mudiad, a theithiodd yn Arfon, Llŷn, Meirion, Maldwyn, a Cheredigion i bregethu ei egwyddorion, nid heb gryn fesur o lwyddiant i'r 'Wesle Bach' ac o golledion i'r cyfundeb Wesleaidd. Bu ei farw (yn ei gartref), 10 Mawrth 1838, yn 44 oed, yn ddyrnod drom i'r enwad bychan; yr oedd eisoes mewn anawsterau ariannol, ac yn raddol suddodd yn ôl i fynwes yr hen gyfundeb, neu i fudiadau Wesleaidd 'diwygiadol' eraill, neu, ar y llaw arall, ymunodd aelodau ohono ag eglwysi Ymneilltuol.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.