OWEN, MORGAN (1585? - 1645), esgob Llandaf

Enw: Morgan Owen
Dyddiad geni: 1585?
Dyddiad marw: 1645
Rhiant: Owen Rees
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: esgob Llandaf
Maes gweithgaredd: Crefydd
Awdur: Thomas Iorwerth Ellis

Ganwyd c. 1585, trydydd mab y Parch. Owen Rees, y Lasallt, Myddfai, Sir Gaerfyrddin. Disgrifir ef fel un o ddisgynyddion ' Meddygon Myddfai.' Cafodd ei addysg yn ysgol ramadeg Caerfyrddin a Choleg Iesu, Rhydychen, a daeth yn ddiweddarach yn gaplan New College, gan raddio'n B.A. yn 1613. Daeth yn gaplan i William Laud pan oedd hwnnw'n esgob Tyddewi, a daliodd nifer o swyddi a bywiolaethau yn yr esgobaeth honno; yn 1636 gwnaed ef yn D.D. Prifysgol Rhydychen. Caeodd gyntedd deheuol Eglwys Fair yn Rhydychen a chodi porth yno yn 1637. Dewiswyd ef yn esgob Llandaf, Mawrth 1639/40, a daliodd reithoraethau Bedwas a Rhydri 'r un pryd. Yn 1641 cyhuddwyd ef am iddo gyhoeddi canonau 1640, a'i garcharu yn Nhŵr Llundain; bu yno eilwaith yn 1642. Wedyn dychwelodd i Gymru; collasai ei blas yn Mathern a'i eiddo, ac ymneilltuodd i'r Lasallt, lle y bu farw 5 Mawrth 1645. Claddwyd ef ar yr aswy i'r allor yn eglwys Myddfai, ac y mae yno goflech iddo.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.