OWEN, MARY (1796 - 1875), emynyddes

Enw: Mary Owen
Dyddiad geni: 1796
Dyddiad marw: 1875
Priod: Robert Owen
Priod: Thomas Davies
Rhiant: Mary Rees
Rhiant: David Rees
Rhyw: Benyw
Galwedigaeth: emynyddes
Maes gweithgaredd: Barddoniaeth; Crefydd
Awduron: Thomas Mardy Rees, Gomer Morgan Roberts

Ganwyd yn 1796 yn Ynys-y-maerdy, Llansawel, Sir Forgannwg, yn ferch i David a Mary Rees, ei thad yn ddiacon yng nghapel Maesyrhaf, Castell Nedd. Cynhelid cyrddau crefyddol yn ei chartref a dysgodd garu emyn yn ieuanc.

Perswadiodd William Williams ('Caledfryn') hi i gyhoeddi cynnyrch ei hawen, Hymnau ar Amryw Destunau (1839); argrr. eraill yn 1840, 1841, 1842). Cyfansoddodd dros 100 o emynau : yn eu plith y mae ' Caed modd i faddeu beiau ' a ' Dyma gariad, pwy a'i traetha? '

Priododd (1), Thomas Davies, Castell Nedd, capten llong; a (2), y Parch. Robert Owen (a fu farw 1857). Cafodd drwydded i gadw ysgol.

Bu farw 26 Mai 1875 a chladdwyd yn Llansawel.

Awduron

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.