OWEN, ROBERT LLUGWY (1836 - 1906), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, athro, ac awdur

Enw: Robert Llugwy Owen
Dyddiad geni: 1836
Dyddiad marw: 1906
Rhiant: Joseph Owen
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd, athro, ac awdur
Maes gweithgaredd: Crefydd; Addysg; Llenyddiaeth ac Ysgrifennu
Awdur: Robert Thomas Jenkins

Ganwyd ym Metws-y-coed ym mis Hydref 1836, yn fab i Joseph Owen. O Ysgol Frutanaidd Llanrwst aeth yn 14 oed i weithio mewn chwarel yn Ffestiniog. Dechreuodd bregethu (yng Nghapel Curig) yn 1857; aeth i ysgol 'Eben Fardd' yng Nghlynnog ac oddi yno i ysgol yn Nulyn - bu'n athro cynorthwyol yn honno. Bu yng Ngholeg y Bala o 1860 hyd 1863, ac ymaelododd ym Mhrifysgol Llundain. Galwyd ef yn 1863 i fugeilio eglwys Acre-fair ger Rhiwabon, a bu yn ei swydd hyd 1877.

Ond anian ysgolhaig oedd ynddo (yn neilltuol, yr oedd yn ieithydd da); bwriodd dymor yn yr Almaen yn 1872, ac yn 1876 aeth i Brifysgol Tübingen, lle y graddiodd yn Ph.D. (gradd a gynhwysai radd M.A.). Ddiwedd 1877, er lles ei iechyd, symudodd i Gonwy, i gadw ysgol ramadeg y bu amryw o weinidogion y Methodistiaid Calfinaidd yn ddisgyblion ynddi, ac am gyfnod (1879-86) bu hefyd yn bugeilio eglwys Methodistiaid Calfinaidd Conwy. Ymddeolodd yn 1903 i Fae Colwyn, a bu farw 16 Medi 1906, fis cyn cyrraedd ei 70 oed; claddwyd ym Metws-y-coed.

Ni chododd i sylw mawr yn llysoedd ei enwad, gan mai myfyriwr a bardd ac athronydd, yn hytrach na phregethwr poblogaidd neu drefnydd, oedd ef. Cyhoeddodd amryw lyfrau, megis Y Drych a'r Ffynnon (pregethau), 1901; Odlau'r Pumafon (emynau), 1905; a chyfieithiad newydd o'r Rhufeiniaid, 1903; ond ei waith pwysicaf oedd Hanes Athroniaeth y Groegiaid, 1898, newyddbeth yn yr iaith Gymraeg.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.