OWEN
,
LEWIS
(
1572
-
1629?
),
dadleuydd gwrth-Babyddol
;
g.
1572
yn
sir Feirionnydd
. Nid oes sicrwydd ynglŷn â'i deulu, ac y mae'n amheus ai yr un ydoedd â mab hynaf
Gruffydd
Owen
,
Talybont
,
Llanegryn
, pedwerydd mab y
barwn
Lewis
Owen
o'r
Llwyn
,
Dolgellau
. Ymaelododd yng
Ngholeg Eglwys Crist
,
Rhydychen
,
14 Rhagfyr 1590
, ond gadawodd y coleg heb raddio ac aeth i
deithio'r Cyfandir
. Dywedir iddo gael ei dderbyn yn aelod o
Gymdeithas Iesu
, ond yn ddiweddarach troes yn un o elynion pennaf y gymdeithas honno ac aeth yn
ysbïwr
yng ngwasanaeth
Llywodraeth Loegr
. Cyhoeddodd yn
1626
The Running Register, recording a True Relation of the English Colledges, Seminaries and Cloysters in all Forraine Parts, etc.
, lle y ceir cryn dipyn o hanes y colegau hynny ac o rai o'r
Cymry
a'u mynychai. Ef hefyd ydoedd
awdur
The Unmasking of all Popish Monks, etc.
,
1628
, a gyflwynodd i
Syr
John
Lloyd
,
Aberllefenni
a
Cheiswyn
, a
Speculum Jesuiticum
,
1629
. Dywed
W. Llewelyn
Williams
iddo f. yn
1629
.
Llyfryddiaeth:
-
Oxford Dictionary of National
Biography
, a'r awdurdodau a enwir yno;
-
W. Llewelyn Williams
yn
Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y
Cymmrodorion
,
1901-2
, 90, 121-3, a
The Making of Modern Wales
, Caerdydd,
1913
, 240-1;
-
Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion
Cymru
, ii, 352.
Awdur:
Emyr Gwynne Jones, M.A., (1911-72), Bangor