OWEN
,
JOHN
(
1854
-
1926
),
esgob Tyddewi
,
g. yn yr
Ysgubor Wen
,
Llanengan,
Llŷn
,
24 Awst 1854
, mab
Griffith
Owen
ac
Ann
ei wraig. Cafodd ei addysg yn
ysgol ramadeg Botwnnog
, ac yn
1872
enillodd
ysgoloriaeth mewn mathemateg
i
Goleg Iesu
,
Rhydychen
. Cafodd anrhydedd yn yr ail ddosbarth yn yr arholiad cyntaf yn y clasuron ac mewn mathemateg, a hefyd yn yr arholiad terfynol mewn mathemateg yn
1876
(
B.A.
1876
,
M.A.
1879
). Bu'n
athro
yn
ysgol ramadeg Appleby
am dair blynedd, a dychwelodd i
Gymru
yn
1879
yn
athro Cymraeg
a
darlithydd yn y clasuron
yng
Ngholeg Dewi Sant
,
Llanbedr-pont-Steffan
. Urddwyd ef yn
ddiacon
yr un flwyddyn gan yr
esgob
Basil
Jones
[q.v.]
, ac yn
offeiriad
yn
1880
.
Bu am chwe mlynedd yn
Llanbedr
cyn mynd i
Lanymddyfri
yn
1885
yn olynydd i
A. G.
Edwards
[q.v.]
fel
warden y coleg
. Pan godwyd hwnnw'n
esgob Llanelwy
yn
1889
, penododd
John
Owen
yn
ddeon
, ond ar ôl tair blynedd yn
Llanelwy
dychwelodd
John
Owen
i
Goleg Dewi Sant
yn
brifathro
. Dyrchafwyd ef yn
esgob
Tyddewi
yn
1897
, a daliodd y swydd hyd ei farw yn
Llundain
4 Tachwedd 1926
. Yr oedd
John
Owen
yn
Gymro
trwyadl o ran iaith a dyhead. Er ei fod yn ddadleuwr dan gamp, ni fennai hyn ddim nac ar ei barch i'w wrthwynebwyr nac ar yr eiddynt hwythau iddo yntau. Cymerai
ddiddordeb mawr yng nghyfundrefn addysg Cymru
a'i datblygiad, ac un o'i weithredoedd cyhoeddus olaf (ar wahân i'w ddyletswyddau eglwysig) ydoedd
llywyddu ar y pwyllgor adrannol
a gyhoeddodd yn
1927
yr adroddiad ar
Y Gymraeg mewn Addysg a Bywyd
. Bu mewn cysylltiad agos hefyd â'r
eisteddfod genedlaethol
ac â
Chyngor Cymreig Undeb Cynghrair y Cenhedloedd
. Priododd,
1882
Amelia
, merch
J.
Longstaff
,
Appleby
; bu iddynt bedwar mab a chwe merch a bu hi fyw ar ei ôl. Claddwyd ef yn
Abergwili
; y mae cerflun ohono yng
Nghapel Mair
yn
eglwys gadeiriol Tyddewi
.
Llyfryddiaeth:
-
Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y
Cymmrodorion
,
1927
;
-
Who was who?
,
1916-28
;
-
Oxford Dictionary of National
Biography
;
- gwybodaeth bersonol.
Awdur:
Thomas Iorwerth Ellis, M.A., (1899-1970), Aberystwyth