OWEN, JOHN (1836 - 1915), gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac awdur 'Cân y Mochyn Du'

Enw: John Owen
Dyddiad geni: 1836
Dyddiad marw: 1915
Priod: Elizabeth Owen (née Rees)
Rhiant: Rachel Owen
Rhiant: Simon Owen
Rhyw: Gwryw
Galwedigaeth: gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd ac awdur 'Cân y Mochyn Du'
Maes gweithgaredd: Crefydd; Barddoniaeth
Awdur: Dillwyn Miles

Ganwyd 1 Ebrill 1836, mab Simon a Rachel Owen, Blaenpencelli, plwyf Eglwyswrw, Sir Benfro. Cafodd ei addysg gynnar mewn ysgol Sul a gynhelid yng nghapel Ebenezer (Bedyddwyr), Dyfed. Cyn ei fod yn 12 oed aeth i Henllys, hen gartref George Owen, hanesydd sir Benfro, yn was bugail; wedi iddo fod yno am ddwy flynedd cymerodd seibiant i fynd am ddau fis i ysgol ddyddiol a gynhelid yn Eglwys-wrw. Dysgodd Saesneg, cerddoriaeth, a llawfer Gymraeg ei hunan, heb gymorth athrawon. Ysgrifennodd 'Y Mochyn Du' c. 1854. Yr oedd ar y pryd yng ngwasanaeth Thomas James a'i wraig yn Felin Wrdan, Eglwyswrw; tybir i'r faled gael ei chyhoeddi gan Mrs. James yn ddiweddarach, heb yn wybod i'r awdur. Yr oedd cymeriadau'r gân yn adnabyddus i bawb yn y gymdogaeth; digwyddodd y 'golled' i David Thomas, Parcymaes, Brynberian. Canwyd y gân yn ffeiriau'r cylch gan Levi Gibbon, a ychwanegodd rai penillion. Daeth cyn bo hir iawn yn boblogaidd y tu hwnt, nid yn unig trwy Gymru eithr ym mhob rhan o'r byd lle y mae Cymry. Yr oedd yr awdur, fodd bynnag, â chywilydd arno o'i phlegid, a gorchmynnodd nad oedd i'w hadargraffu; ni fynnai, ychwaith, wrando arni'n cael ei chanu. Nid oes ond un cyfeiriad byr yn ei hunangofiant (mewn llawysgrif) at y faled, a hwnnw'n dangos bod yr awdur yn credu mai dylanwad er drwg a gâi'r faled ar bobl ieuanc.

Yn 1857, pan oedd yn was fferm yn Blaenmeini, Sir Benfro, clywodd bregeth gan John Jones, Ceinewydd, Sir Aberteifi, a wnaeth iddo benderfynu ymuno â'r Methodistiaid Calfinaidd a mynd ei hunan i'r weinidogaeth. Ddwy flynedd yn ddiweddarach priododd Elizabeth, ferch Thomas Rees, Tŷ Capel, Glanrhyd. Yno, yn Glanrhyd, daeth i adnabod arweinwyr diwygiad 1859-60, eithr ni ddechreuodd bregethu hyd 1863. Y flwyddyn ddilynol derbyniodd alwad i eglwys newydd a sefydlasid yn y Tŷ-gwyn-ar-Daf; tra bu yno sefydlodd yr achos yn Red Roses, gerllaw Arberth. Yn 1876 symudodd i Burry Port, Sir Gaerfyrddin, i ofalu am eglwys Bethany (Methodistiaid Calfinaidd); arhosodd yno hyd ei farw. Bu ei wraig farw yn 1878, ac ailbriododd yntau y flwyddyn wedyn. Bu'n ysgrifennu am flynyddoedd i Baner ac Amserau Cymru a'r Goleuad; yn ddiweddarach daeth yn olygydd Y Cylchgrawn. Bu farw ym mis Hydref 1915 yn Burry Port.

Awdur

Dyddiad cyhoeddi: 1953

Hawlfraint Erthygl: http://rightsstatements.org/page/InC/1.0/

Mae'r Bywgraffiadur Cymreig yn cael ei ddarparu gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru a Chanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Mae ar gael am ddim ac nid yw'n derbyn cymorth grant. Byddai cyfraniad ariannol yn ein helpu i gynnal a gwella'r wefan er mwyn i ni fedru parhau i gydnabod Cymry sydd wedi gwneud cyfraniad nodedig i fywyd yng Nghymru a thu hwnt.

Ewch i'n tudalen codi arian am ragor o wybodaeth.