OWEN
,
JOHN
(
1757
-
1829
),
ysgrifennwr ar bynciau crefyddol
;
g. yn
1757
ym
Machynlleth
, lle y bu am lawer blwyddyn yn
cadw busnes groser
a hefyd yn bartner gyda
Hugh
Williams
‘y Chartist’
[q.v.]
yng
ngwaith plwm Dylife
. Ymunodd yn fore â'r
Methodistiaid Calfinaidd
, ond er ei fod yn
Fethodist
ymroddgar, ni ddygymyddai ag
ordeiniad 1811
. Wedi marw ei wraig, symudodd i
Langyndeyrn
yn
sir Gaerfyrddin
, ac yno y bu f., yn
1829
, yn 72 oed. Ymddiddorai mewn
diwinyddiaeth
a
seryddiaeth
; ac y mae rhywbeth anarferol yn ei gynhyrchion, pan gofiwn ei yrfa. Cyhoeddodd yn
1788
Troedigaeth Atheos
, math o epig, efelychiad o
‘
Bantycelyn
,’
gyda nodiadau a fenthyciwyd gan mwyaf o
Golwg ar y Byd
David
Lewis
[q.v.]
o
Langatwg Nedd
; aeth hwn i ail argraffiad yn
1818
(a thrydydd yn
1871
); gw. y disgrifiad ohono yn
Llyfryddiaeth y Cymry
, 633. Yn
1797
cyhoeddodd
Golygiadau ar Achosion ag Effeithiau'r Cyfnewidiad yn Ffrainc
, dogfen bur nodedig o agwedd y
Methodistiaid Cymreig
at broblemau gwleidyddol — amlinelliad ohono gan
J. J.
Evans
,
Dylanwad y Chwyldro Ffrengig
, 169-70. I
1818
y perthyn
Golygiad ar Adfywiad Crefydd yn yr Eglwys Sefydledig yng Nghymru o ddeutu y flwyddyn 1737
, gwaith a achlysurwyd gan farwolaeth
John
Evans
[q.v.]
o'r
Bala
, ac sy'n cynnwys nodiadau ar
bregethwyr
y
Methodistiaid Calfinaidd
. Heblaw'r uchod, cyhoeddodd
John
Owen
Difrifol Ystyriaeth
,
1789
;
Tair Cerdd Newydd
,
1795
; a
Golygiad ar Athrawiaeth y Drindod
ac ar Berson Crist
,
1820
. Ŵ
yr iddo oedd
D. C.
Lloyd-Owen
[q.v.]
.
Llyfryddiaeth:
-
R. Williams
,
Montgomeryshire Worthies
, ail arg.,
1894
;
-
Cardiff Free Libraries, Catalogue of Printed
Literature in the Welsh Department
, 1898
;
- a'r cyfeiriadau uchod.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D.,
F.S.A., (1881-1969), Bangor