OWEN
,
JOHN
(
1616
-
1683
),
diwinydd Piwritanaidd (Annibynnwr)
,
‘
gyda
Baxter
a
Howe
, saif ar flaen y
diwinyddion Piwritanaidd
’; g. yn
1616
, a bu f.
24 Awst 1683
. Adroddir ei yrfa'n llawn yn y
D.N.B.
, ond nid oes a fynno hi ddim â
Chymru
, ond yn yr ystyr mai ar weithiau diwinyddol
John
Owen
y magwyd cenedlaethau o
bregethwyr Calfinaidd
enwocaf
Cymru
. Ond yr oedd gwaed
Cymreig
ynddo. Mab oedd ef i
Henry
Owen
,
ficer
Stadhampton (Oxon.)
, ŵyr felly i
Griffith
Owen
o
Dal-y-bont
a
Pheniarth
(
Llanegryn, Meirion
), a gor-ŵyr i'r
barwn
Lewis
Owen
[q.v.]
. Yr oedd hefyd yn perthyn i
Hugh
Owen
(
1639
-
1700
) o
Fronclydwr
[q.v.]
— yn gefnder cyfan i'w fam (gw.
J. E.
Griffith
,
Pedigrees
, 323). Brodiwyd braidd yn ffansïol ar y ffaith hon gan rai a fyn mai dylanwad personol ei ‘ewythr’ a droes
Hugh
Owen
yn
Ymneilltuwr
, yn ystod ei breswyl yn
Rhydychen
. Eithr nid aeth
Hugh
Owen
yno cyn
canol 1660
, pan oedd
John
Owen
eisoes wedi ymado â'r lle. Nid oes yn wir mo'r praw lleiaf fod unrhyw gyfathrach rhwng y
diwinydd
mawr a'i deulu yng
Nghymru
. Eto, yn ddiamau, fe wyddai
Ymneilltuwyr
yng
Nghymru
am y berthynas — cyfeirir ati gan
Henry
Maurice
[q.v.]
.
Awdur:
Yr Athro Emeritus Robert Thomas Jenkins, C.B.E., D.Litt., Ll.D.,
F.S.A., (1881-1969), Bangor