Y Bywgraffiadur Cymreig



A  B  C  D  E  F  G  H  I  J  K  L  M  N  O  P  Q  R  S  T  U  V  W  X  Y  Z



OWEN , Syr JOHN ( 1600 - 1666 ), llywiawdr ym myddin y Brenhinwyr , mab hynaf John Owen , Bodsilin , ysgrifennydd Walsingham , ac Elin ( arglwyddes Eure wedi hynny), ŵyres Syr William Maurice [q.v.] ; g. yn y Clenennau , gerllaw Dolbenmaen , sir Gaernarfon , cartref ei fam. Priododd Jonet , merch Griffith Vaughan , Corsygedol , sir Feirionnydd . Cafodd beth profiad fel milwr cyn etifeddu Clenennau ar farw ei fam yn 1626 (gw. N.L.W. Brogyntyn 3/46 ). Yr oedd yn siryf sir Gaernarfon yn 1630/1 a sir Feirionnydd y flwyddyn ddilynol. Pan dorrodd y Rhyfel Cartrefol allan, dodwyd ef ar y comisiwn rhyfel ( 10 Awst 1642 ) — parodd Siarl I iddo godi tair catrawd , ar gost arian y sir, o dair sir Gwynedd a darparu iddynt wisgoedd ac offer rhyfel. Oherwydd rhwystrau a achosid iddo gan deuluoedd lleol — Glyniaid Glynllifon , teulu Madryn , etc. — ni allodd gael ei ddynion yn barod i'r gad hyd yr haf dilynol. Mewn ymladdfeydd yng nghyffiniau Rhydychen y buont i gychwyn ( Mai 1643 ), ac wedyn yng ngwarchae Bryste ; yno, ac yntau'n bennaeth y chweched gatrawd o dan y tywysog Rupert , fe'i clwyfwyd yn ei wyneb ( 18 Gorffennaf ), ond ymladdodd eto gerllaw Newbury ( 20 Hydref ). Y flwyddyn ddilynol galwyd arno i ddychwelyd a bod yn siryf sir Gaernarfon am yr ail dro; bu yn y swydd hyd nes peidiodd awdurdod y brenin yn sir Gaernarfon . Ar ôl ymgyrch lwyddiannus Syr Thomas Myddelton [q.v.] yng Nghymru , gwysiwyd Owen i Rydychen ; yno gwnaeth y brenin ef yn llywiawdr yr hyn a ddaeth yn ‘ffrontiere garrison’ Conwy ( 10 Rhagfyr 1644 ), a'i wneuthur yn farchog wythnos yn ddiweddarach. Ar 17 Chwefror 1645 , gwnaethpwyd ef yn ‘ sergeant major general of foot ,’ a'r arglwydd Byron ( llywiawdr Caer ) yn bennaeth uniongyrchol arno. Ei dasg gyntaf ydoedd gwrthwynebu'r bygythion i siroedd Dinbych a'r Fflint a oedd wedi datblygu yn ystod y gaeaf ( N.L.W. Rhual MSS., llythyr 95 ), eithr oblegid i gyrch yn Lancashire fynd â'r goresgynwyr i ffwrdd ym mis Mai cafodd gyfle i roi sylw i gyflwr amddiffynfeydd ardal Eryri . Yr oedd bwyd ac adnoddau eraill yn brin a'r boneddigion yn yr ardaloedd hynny yn hwyrfrydig i gydweithio, a hynny, i raddau, am fod arnynt ofn llywodraeth filwrol o'r tu allan — ofn a fynegid gan yr archesgob John Williams ; yr oedd ef wedi gwario ei arian mewn modd hael i ddod â chynlluniau lleol i rym, a threfnu i Gonwy , ei fangre ef ei hun, fod yn fath o bencadlys offer rhyfel, a bu'n protestio ( Ionawr 1645 ) oblegid bod gŵr o'r tu allan, o rannau gwylltion Eifionydd , yn dyfod i gymryd ei le. Ceisiodd Byron gymodi rhyngddynt; ym mis Mai, fodd bynnag, gydag awdurdod a roddwyd iddo gan Rupert , aeth Owen i mewn i gastell Conwy trwy rym arfau, cymerodd feddiant o gynnwys y castell, a dywedodd bethau mor gas am yr archesgob nes i'r brenin orfod dwrdio Owen . Oherwydd fod y Pengryniaid yn pwyso yno gorfu i Owen fynd i sir Feirionnydd ym mis Awst; ym mis Medi, fodd bynnag, yn union ar ôl i fyddin y brenin gael ei gorchfygu ym mrwydr Rowton Heath , gwysiwyd Owen gan y brenin i ddyfod ato i Ddinbych er mwyn cael cadarnhau ei gomisiwn, a oedd yn cynnwys gofalu am y castell. Wedi i Byron geisio fwy nag unwaith, ar ôl i Gaer gwympo ( 1 Chwefror 1646 ), eu cael i ymgymodi, anfonodd yr archesgob lythyr caredig at Owen ( 24 Ebrill ); serch hynny, o dan orchymyn Byron y bu i Owen weithredu yn y fath fodd ag i achosi y rhwyg terfynol — sef trwy beri gafael (‘impounding’) ar bob adnoddau rhyfel, gan gynnwys gwartheg, etc., o Wydir , ac felly adael nith fwyaf hoff yr archesgob a'i gŵr Syr Owen Wynne [q.v.] at drugaredd y Pengryniaid . A'i amynedd bron ar ben, cynorthwyodd Williams Thomas Mytton [q.v.] i ddyfod i Gonwy ym mis Awst, eithr parhaodd Owen i ddal y castell hyd 9 Tachwedd , pryd y gwnaethpwyd telerau anrhydeddus a'i gwnaeth yn bosibl iddo ymneilltuo i Glenennau ar ôl iddo gymryd y ‘ Covenant ’ a'r ‘ Negative Oath ’ (26 Ebrill 1647).

Bythefnos cyn hyn yr oedd Rupert wedi ysgrifennu o Ffrainc yn gwahodd Owen i ddod â brigâd o Gymry drosodd i wasnaethu yn y wlad honno, eithr bu raid iddo, o'i anfodd, wrthod y gwahoddiad oherwydd prinder moddion cludo. Adnewyddwyd ei gomisiwn yn yr ail Ryfel Cartrefol ( 31 Mawrth 1648 ). Llwyddodd i gael sir Feirionnydd i godi o blaid y brenin ac arfaethai ymuno â Rowland Laugharne [q.v.] yn sir Benfro , eithr dewisodd yn hytrach warchae tref Caernarfon ar adeg pan oedd hi'n rhy hwyr i wneuthur hynny. Gorfu iddo gilio'n ôl trwy Fangor o flaen lluoedd cryfach, gyda siryf y Senedd , William Lloyd , a glwyfasid, yn garcharor yn ei ddwylo; gwasgwyd arno ef a'i wŷr ar lan y môr yn y Dalar Hir , Llandegai ( 5 Mehefin ), lle y gwasgarwyd ei filwyr gan Mytton a'i gymryd yntau ei hunan yn garcharor gan capten Edward Taylor (gw. dan Kenrick ), a gafodd ei wobrwyo'n dda gan y Senedd ; bu'r siryf farw oherwydd treialon y siwrnai . Taflwyd Owen i garchar yng nghastell Dinbych , aethpwyd ag ef i Lundain i sefyll ei brawf am deyrnfradwriaeth yn erbyn y Senedd , am beidio â chadw at delerau ei ymostyngiad, ac am achosi marwolaeth y siryf. Symudwyd ef i Windsor ( 26 Mehefin ), ac yna daethpwyd ag ef yn ôl i Lundain i'w brofi wedi i Dŷr Arglwyddi atal gorchymyn i'w alltudio ef a Laugharne ( 14 Tachwedd ) ac i Senedd y ‘Rump’ benderfynu, ddau ddiwrnod wedi dienyddio 'r brenin ( 1 Chwefror 1649 ), ei brofi ef a phrif gynllwynwyr eraill yr ail Ryfel Cartrefol o flaen yr un llys. Wedi iddo ei amddiffyn ei hun mewn modd cadarn, heb gymorth pleidydd ( 9 Chwefror — 6 Mawrth ), condemniwyd ef i farwolaeth; drannoeth, fodd bynnag, gwnaeth betisiwn i gael ei ollwng yn rhydd — y mae amryw gopïau mewn drafft ohoni ar gael — a llwyddodd; credai ef ei hunan mai Cromwell neu James Challenor a gyfryngodd ar ei ran; credai Clarendon mai Ireton oedd y cyfryngwr; tra y dywed adroddiadau eraill mai rhyw lysgenhadon tramor a ddylanwadodd, a bod ar y Llywodraeth ofn y byddai helynt yng Nghymru os na chaniateid y cais. Erbyn Gorffennaf yr oedd yn rhydd ac yn abl i ddiddanu'r dyddiadurwr John Evelyn yn Llundain gyda thelynor Cymreig , ac yr oedd yn ôl yn ei gartref ym mis Medi. Gwnaethpwyd ymdrech i gael arian o'i stad a oedd eisoes wedi ei dirwyo ( 27 Mai 1647 ) i'r swm o £771, arian yr oeddid ( 10 Chwefror 1646 ) yn edrych arno fel cronfa i ad-dalu ohoni fenthyciadau a wnaethpwyd yn ystod ymgyrch Myddelton eithr lluddiwyd yr ymdrech gan Mytton ac y mae'n ymddangos i Myddelton , yntau, ymddwyn gyda pheth hynawsedd ym mater y ‘sequestration.’ Ymddiddorodd Owen yr adeg hon yn ei gŵn a'i hebogau yn Clenennau . Ni allai fynd i ffwrdd o'i gartref heb ganiatâd arbennig (‘pass’) ac fe'i rhoddwyd o dan ofalaeth arbennig (‘preventive restraint’) deirgwaith; yn Ninbych (er iddo gael caniatâd arbennig lawer tro i fynd oddi yno) yn Awst — Medi 1651; yng Nghaer ym mis Gorffennaf 1655 (pryd yr oedd llawer o gynllwynion ar droed) hyd nes y llwyddodd apeliadau drosto at Cromwell a rhai o'i wŷr (a John Jones y ‘regicide’ yn eu plith) i'w gael yn rhydd ar 17 Awst; a thrachefn yn Biwmares am dair wythnos yn 1658 . Ar wahân i apêl a wnaeth at Cromwell yn erbyn yr hyn a ofynnwyd ganddo o dreth y degfed (‘decimation tax’) yn 1655 , ni chymerodd unrhyw ran (hyd y gwyddys) mewn materion gwleidyddol hyd nes, pan galonogwyd ef wrth dderbyn llythyr oddi wrth ddug York a oedd yn alltud ( 7 Gorffennaf 1659 ), yr ymunodd yng ngwrthryfel Booth ; canlyniad hyn ydoedd gorchymyn newydd i gymryd ei eiddo oddi arno (‘sequestration’), eithr ni roddwyd y gorchymyn mewn grym oherwydd i'w frawd (gw. isod) gyfryngu drosto. Pan ddychwelodd y brenin ( Siarl II ) apeliodd am gael gwneuthur iawn iddo ac am gael dial am yr hyn a ddioddefodd ar gam ( 31 Gorffennaf 1660 ), a rhoddwyd iddo'r swydd o is-lyngesydd (‘vice-admiral’) Gogledd Cymru ; yn rhinwedd ei swydd fel dirprwy-raglaw bu'n cydweithio â William Griffith , Cefnamwlch [q.v.] i chwilio am bleidwyr yr hen Lywodraeth a thalu'n ôl i'r rheini a fu'n brysur bedwar-mis-ar-ddeg yn gynt ym mater cymryd ei eiddo oddi arno (‘sequestration’). Bu f. yn Clenennau yn 1666 . Y mae'r arysgrif ar ei feddrod yn eglwys Penmorfa bron wedi treulio erbyn hyn; gwelir copi ohoni yn Trans. Shrops. Antiq. Soc. , II, iv, 54, a cheir copïau cyfoes ohoni wedi eu cadw mewn drafft yn Lladin , Cymraeg , a Saesneg . Eithr gan ddau fardd yr ysgrifennwyd ei feddargraff orau — a hynny pan ddaeth yn siryf am y tro cyntaf: ‘ Gŵr purffydd … a gŵr a nerthai'r Goron ,’ ac ‘ Mae rhinwedd ar eich cledd clau ’ ( N.L.W. Brogyntyn MS. 3/437 (397) ); wedi'r cyfan, milwr ydoedd yn anad dim arall, yn fwy hyddysg mewn milwriaeth (yr unig bwnc y bu wiw ganddo ychwanegu at lyfrgell y teulu arno) nag mewn gwleidyddiaeth resymegol neu ddiwinyddiaeth neu'r math o athrylith ddiplomyddol y mae'n rhaid wrthi mewn materion cyhoeddus; mewn materion gwleidyddol a chyhoeddus, fel y dywedodd yr archesgob John Williams , ‘ Valour will not do the business .’



Etifeddodd WILLIAM OWEN ( 1607 - 1670 ), brawd Syr John Owen , stad Porkington ( Brogyntyn yn awr), swydd Amwythig . Cafodd yntau gomisiwn cyrnol gan y brenin ( 15 Mehefin 1643 ), bu'n cynorthwyo fel siryf Meirionnydd , 1645-6 , i drefnu adnoddau o'r sir honno, ac efe oedd llywiawdr Harlech o 16 Mai 1644 hyd y trosglwyddwyd hi i blaid y Senedd , eithr ar amodau anrhydeddus, ar 13 Mawrth 1647 pan nad ydoedd ond Raglan yn unig yn aros yn nwylo plaid y brenin. Yn 1648 aeth i Sgotland gyda Langdale i ymuno yng ngoresgyniad Hamilton , carcharwyd ef yng nghastell Nottingham pan fethodd y goresgyniad, ac ar ôl iddo wneuthur trefniant (a gostiodd £400) ynglyn â'i stadau (‘compounding’) — fe ryddhawyd y stadau yn 1651 — cafodd ganiatâd i fynd dros y môr. Yr oedd yn ôl yn Porkington erbyn diwedd 1655 ; llwyddodd yr adeg honno yn ei apêl i ddod yn rhydd o dalu treth y degfed (‘the decimation tax’). Wedi'r Adferiad bu'n deisebu dro ar ôl tro am gael ei godi yn ei swydd fel iawndal am ei golledion ( Cal. S.P. Dom. , 1660-1 , 90, 249, 442; 1661-2 , 169, 180; Hist. MSS. Comm., 2nd R. , 87), eithr ni chafodd ddim ond swydd cyrnol ym milisia sir Ddinbych ( 21 Mawrth 1661 ). Yr oedd yn noddwr i'r bardd Huw Morys [q.v.] , a bleidiai'r brenin. Priododd Mary , gweddw'r esgob John Hanmer [q.v.] , eithr gan na fu etifedd o'r briodas, ad-unwyd ei stad, ar ei farw ef, â stad Clenennau , a gawsai WILLIAM OWEN ( 1624 - 1677 ), pan fu ei dad ef, Syr John Owen , farw. Buasai'r William hwn gyda'i dad yng ngwarchae Bryste ; priododd Katherine Anwyl , Parc , Llanfrothen, sir Feirionnydd ; a bu'n byw yn ystod yr ‘ Interregnum ’ yn Llanddyn , stad Anwyliaid Parc . Ychwanegwyd at ddylanwad tiriogaethol y teulu yng Nghymru pan briododd ei fab ef, Syr ROBERT OWEN ( 1658 - 1698 ), â Margaret , cyd-aeres Owen Wynn , Glyn , sir Feirionnydd . Cafodd ei addysg yng Ngholeg Oriel , Rhydychen (ymaelodi ar 20 Ebrill 1674 ) ac yn yr Inner Temple ( 1677 ); cafodd ei wneuthur yn farchog yn 1678 (16 Gorffennaf) . Yr oedd yn wleidyddwr pybyr, ac yn frwdfrydig o blaid y Goron ac ailsefydlu Eglwys Loegr ; ar 1 Rhagfyr 1687 fe'i dewiswyd yn siryf Meirionnydd yn lle'r gŵr a enwyd yn wreiddiol, John Jones , mab y ‘ regicide .’ Bu'n cynrychioli sir Feirionnydd yn Senedd 1681 a sir Gaernarfon yn Seneddau 1689-97 . Cynigiodd godi milwyr dros Iago II yn erbyn William o Orange , fis Tachwedd 1688 ; ond yn y diwedd cymododd â'r Chwyldro . Er mai yn sir Amwythig yr oedd yn byw gan amlaf, fe'i cysylltodd ei hun yn bur glos â Chymru ; llanwai amryw swyddi lleol. Dilynodd ei hen-ewythr fel noddwr Huw Morys , a ganodd farwnad iddo yn 1698 . Er gwaethaf cyfres o briodasau â theuluoedd Seisnig , ac i'r stadau fynd o'r diwedd yn eiddo Ormsby-Gore , a oedd o dras Seisnig a Gwyddelig , ni thorrwyd mo'r hen gysylltiad â Chymru , oblegid ceir y teulu weithiau'n cynrychioli etholaethau yn sir Amwythig ac weithiau etholaethau Cymreig yn y Senedd hyd nes aeth i'r bendefigaeth yn 1876 o dan yr enw tiriogaethol CymreigHarlech .’

Llyfryddiaeth:

  • Oxford Dictionary of National Biography , a'r ffynonellau sydd yno;
  • N.L.W. Llawysgrifau Brogyntyn yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth. , Llawysgrif Mostyn yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Aberystwyth 237 (18, 20, 72, 83, 136-7), >Llawysgrifau Sweeney Hall yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru A7, B36, 45, 51-2, 185-6, 202, a Calendar of Wynn (of Gwydir) Papers, 1515–1690, in the National Library of Wales and elsewhere , 1926 ;
  • Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru , v, 165-74, 243-4, 256-7; vi, 7-9;
  • Adroddiadau'r ‘Historical Manuscripts Commission,’ , 2 nd R. , 86-8;
  • Memorials of the English Affairs , 1709; arg. arall, 1853 , ii, 329, 331, 365, 437, 518, 529-30, 534, 546, 548;
  • Carte , A Collection of Original Letters and Papers concerning the Affairs of England, from the year 1641 to 1660 found among the Duke of Ormonde's Papers , Llundain, 1739 , 1739 , i, 247;
  • Transactions of the Shropshire Archaeological and Natural History Society , 1877 ff , II, iv, 13-57, 199-242;
  • Archaeologia Cambrensis , I, ii, 13-5; IV, vi, 201-10, 307-24;
  • J. R. Phillips , Memoirs of the Civil War in Wales and the Marches, 1642–1649 , 1874 ;
  • P. B. Williams , Tourist's Guide through the County of Caernarvon containing a short sketch of its history, antiquities, & , Caernarfon, 1821 , 1821 , app., xiii-xx;
  • Calendar of the Committee for Compounding with Delinquents, etc., 1643–1660 . Record Publication , i, 57-8, 130; iii, 1754, 1842, 1861 ; v, 1102;
  • Calendar of the Committee for Advance of Money, 1642–56 . Record Publication, 1888 , ii, 733, 1102;
  • Evelyn , Diary of John Evelyn , Llundain, 1906 (gol. Wheatley ), 1906 , ii, 5;
  • Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion , 1948-9 , 61;
  • W. R. Williams , The History of the Parliamentary Representation of Wales , 1895 , 117.

Awdur:

Athro Emeritus Arthur Herbert Dodd, M.A., (1891-1975), Bangor